From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru a adnebir fel rheol wrth dalfyriad, Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods; WISERD yn ganolfan ymchwil gwyddorau cymdeithasol ryngddisgyblaethol gyda'i ganolfan weinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei nod yw tynnu ynghyd ac adeiladu ar yr arbenigedd presennol mewn dulliau a methodolegau ymchwil meintiol ac ansoddol. Gellid ei ystyried yn felin drafod.
Enghraifft o'r canlynol | canolfan ymchwil, sefydliad ymchwil |
---|---|
Rhanbarth | Caerdydd |
Gwefan | http://www.wiserd.ac.uk/ |
Mae'r sefydliad yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a De Cymru. Darperir cyllid ar y cyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru (drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a adnebir yn aml gan ei thalfyriad Saesneg, HEFCW), a'r Economic and Social Research Council y DU (ESRC).[1]
Sefydlwyd WISERD yn 2008. Ei gyfarwyddwr presennol yw'r Athro Ian Rees Jones.[2]
Prif nodau WISERD yw:
Mae WISERD yn ceisio cyflawni'r nodau hyn trwy ddwy raglen: rhaglen ymchwil a rhaglen seilwaith ymchwil.
Mae rhaglen ymchwil WISERD yn cynnwys gweithgareddau o wyddoniaeth sylfaenol i brosiectau ymchwil cymhwysol, o fewn y themâu allweddol canlynol: Cymdeithas Sifil; Addysg; Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol; Anghydraddoldebau Economaidd a Chymdeithasol; Ardaloedd; a Data a Dulliau.[3]
Mae WISERD yn cynnal trafodaethau a gweithgaredd rhyngwladol. Cynhaliwyd drafodaeth ar-lein ar y Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn 2023.[4]
Canolfan ymchwil yw Cymdeithas Sifil WISERD, a lansiwyd ym mis Hydref 2014 ac a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae'n cynnal rhaglen bum mlynedd o ymchwil sy'n mynd i'r afael â Chymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.[5]
Ei phedair thema ymchwil yw:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.