Prif adran pêl-droed Armenia From Wikipedia, the free encyclopedia
Uwch Gynghrair Armenia (Armeneg: IBank Հայաստանի Պրեմիեր Լիգա, a adnabyddir fel Uwch Gynghrair Armenia IBank am resymau nawdd) yw'r brif gystadleuaeth bêl-droed yn Armenia.[1] Rhwng 1936 a 1991, cynhaliwyd y gystadleuaeth fel twrnamaint rhanbarthol o fewn yr Undeb Sofietaidd. Yn dilyn annibyniaeth Armenia, mae Ffederasiwn Pêl-droed Armenia wedi bod yn awdurdod llywodraethu'r gynghrair. Dros y blynyddoedd, mae'r gynghrair wedi datblygu i fod yn gynghrair fechan sy'n cynnwys deg tîm. Sefydlwyd yr Uwch Gynghrair yn 1992. Mae enillydd y gynghrair yn cael lle yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr UEFA.
Gwlad | Armenia |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1992 |
Nifer o dimau | 10 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Armenian First League |
Cwpanau | Armenian Cup Armenian Supercup |
Cwpanau rhyngwladol | UEFA Champions League UEFA Europa Conference League |
Pencampwyr Presennol | Urartu (2nd title) (2022–23) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Pyunik (15 titles) |
Partner teledu | Armenia TV YouTube |
Gwefan | premierleague.ffa.am |
2023–24 |
Er bod gwybodaeth werthfawr yn yr erthygl hon, rhaid ymestyn ar y wybodaeth er mwyn iddi gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 14 Medi 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Mae'r uwch gynghrair yn cynnwys deg tîm. Ar gyfer tymor 2012/13, newidiwyd gweithrediadau gêm i amserlen hydref-gwanwyn sy'n arferol yn Ewrop gan gywnnwys Cymru, wedi cyfnod pan oedd y tymor gael ei chwarae dros y flwyddyn galendr (fel arfer o fis Mawrth i fis Hydref).
Roedd 7 o'r 10 tîm yn yr Uwch Gynghrair wedi eu lleoli yn y brifddinas, Yerevan. Dim ond Noah (yn Armavir), Van (yn Charentsavan) a Shirak Gyumri (dinas Gyumri) sydd y tu allan i'r brifddinas. Mae hyn gyda'r nifer dwyaf o brif glybiau o'r brifddinas mewn unrhyw aelod o UEFA - efallai y mwyaf dwys tu hwnt i'r meicro wledydd.
Mae enillwyr yr Uwch Gynghrair yn cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Mae'r timau sy'n ail a thrydydd yn cyrraedd rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Cynhadledd Europa UEFA ('UEFA Europa Conference League'). Mae enillwyr Cwpan Armenia hefyd yn cymryd rhan yno. Os ydyn nhw eisoes wedi cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Ewropeaidd trwy’r gynghrair, mae’r lle hwn yn disgyn i'r tîm sydd bedwerydd yn y gynghrair.
Safle | Clwb | Teitl | Tymor |
---|---|---|---|
1. | Pyunik Yerevan | 15 | 1992*, 1996, 1997, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2015, 2022 |
2. | Shirak Gjumri | 4 | 1992*, 1994, 1999, 2013 |
Alashkert Martuni | 2016, 2017, 2018, 2021 | ||
4. | Araks Ararat | 2 | 1998, 2000 |
Urartu Yerevan | 2014, 2023 | ||
Ararat-Armenia | 2019, 2020 | ||
7. | Ararat Yerevan | 1 | 1993 |
Yerevan | 1997 | ||
Ulisses Yerevan | 2011 |
Cafwyd hanes o newid enwau clybiau mwyaf adnabyddus y wlad. Homenetmen Yerevan yw hen enw Pyunik Yerevan.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.