corff llywodraethol From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Dansk Boldspil Union (DBU), Undeb Pêl-droed Denmarc, yw corff llywodraethol pêl-droed yn nheyrnas Denmarc. Dyma'r corff sy'n goruchwilio Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Denmarc, tîm cenedlaethol merched Denmarc, goruchwilio'r clybau, rhedeg y cynghreiriau. Fe lleolir ei phencadlys yn ninas Brøndby ac mae'n un o aelodau sefydliadol FIFA yn 1904 ac UEFA yn 1954. Y DBU hefyd yw corff llywodraethol futsal Denmarc ers 2008.
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 18 Mai 1889 |
Aelod cywllt o FIFA | 1904 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Jesper Møller (2014–) |
Gwefan | www.dbu.dk |
Un o nodweddion y gymdeithas yw defnydd o ffont Art Nouveau ar ei bathodyn chwaethus.
Yn 2013, roedd gan yr DBU 341,342 o aelodau (270,791 o ddynion a 70,551 o fenywod) ar gyfer 16,721 clwb.[1].
Sefydlwyd y DBU yn 1889 a hi oedd y Gymdeithas Bêl-droed genedlaethol gyntaf i'w sefydlu y tu allan i wledydd Prydain ac Iwerddon.[2] Serch hynny, ni wnaeth gofrestru gemau'n swyddogol nes Gemau Olympaidd 1908. Golyga hyn nad yw'r gemau a enillwyd yng nghystadleuaeth Intercalated 1906 wedi eu cofnodi'n swyddogol gan y DBU.
Rhennir y DBU i 6 gymdeithas ranbarthol sy'n seiliedig ar gyn siroedd Denmarc:
Mae gan Ynysoedd Ffaröe a'r Ynys Las, sy'n wledydd hunanlywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc, eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain nad sy'n rhan o'r DBU. Yr Ynys Las yw'r unig wlad nad sy'n aelod o FIFA nac unrhyw gorff cyfandirol. Mae Ynysoedd y Ffaroe yn aelodau o FIFA ac UEFA.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.