![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6e/Cymbalaria_muralis_close_up.jpg/640px-Cymbalaria_muralis_close_up.jpg&w=640&q=50)
Trwyn-y-llo dail eiddew
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol yw Trwyn-y-llo dail eiddew sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Plantaginaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cymbalaria muralis a'r enw Saesneg yw Ivy-leaved toadflax.[2] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llin y Fagwyr, Mam Miloedd, Trwyn y Llo Eiddewddail.
Cymbalaria muralis | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Plantaginaceae |
Genws: | Cymbalaria |
Rhywogaeth: | C. muralis |
Enw deuenwol | |
Cymbalaria muralis Gottfried Gaertner | |
![]() | |
GBIF[1] | |
Cyfystyron | |
|
Llwyn (neu brysgwydd) ydyw, fel eraill yn yr un teulu. Cafodd ei gyflwyno i Brydain fel blodyn gardd yn y 18g, ond mae bellach yn tyfu'n wyllt ar waliau.[3] Mae gan y blodau siap tebyg i drwyn y llo ond eu bod nhw'n llawer llai, gyda sbardunnau neithdar tebyg i lin y llyffant.
Mae'r planhigyn yn lluosogi mewn ffordd anarferol, gan ddefnyddio ffototropedd. Mae coesyn y blodyn yn tyfu oddi wrth y wal, tuag at olau, er mwyn annog pryfed i ymweld a pheillio'r blodyn. Yna, wedi ffrwythloniad, mae'r coesyn yn dod yn negatif yn ei ffototropedd ac yn tyfu yn ôl tua'r wal er mwyn plannu'r hadau yno.[4]