![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/Plongeon_arctique_nid.jpg/640px-Plongeon_arctique_nid.jpg&w=640&q=50)
Trochydd gyddfddu
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Trochydd gyddfddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: trochyddion gyddfddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Gavia arctica; yr enw Saesneg arno yw Black-throated diver. Mae'n perthyn i deulu'r Gaviidae (Lladin: Gaviidae) sydd yn urdd y Gaviiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Trochydd gyddfddu Gavia arctica | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Gaviiformes |
Teulu: | Gaviidae |
Genws: | Gavia[*] |
Rhywogaeth: | Gavia arctica |
Enw deuenwol | |
Gavia arctica | |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. arctica, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop, gogledd Asia ac weithiau yng ngorllewin Alaska. Fel rheol mae'n tueddu i nythu ar lynnau mwy na'r Trochydd Gyddfgoch. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a gellir eu gweld ar yr arfordir neu ar lynnoedd mawr. Pysgod yw ei brif fwyd.
Mae ganddo wddw du, pen llwyd, cefn tywyll ac mae'n wyn oddi tano. Yn y gaeaf mae'n wyn ar y gwddw, ac yn aderyn llawer twyllach na'r Trochydd Gyddfgoch. Nid yw'r Trochydd Gyddfddu yn nythu yng Nghymru ond mae ambell un i'w weld ar yr arfordir yn ystod y gaeaf; er ei fod yn llai cyffredin na'r Trochydd gyddfgoch a'r Trochydd mawr.