From Wikipedia, the free encyclopedia
Person trawsryweddol (byrheir yn aml i berson traws) yw rhywun nad yw ei hunaniaeth rhywedd yn cyfateb i'r rhyw a bennwyd adeg ei eni.[1][2] Mae llawer o bobl drawsryweddol yn profi dysfforia rhywedd, y ceisiant ei leddfu trwy drawsnewid,[3] yn aml mabwysiadu enw gwahanol a set o ragenwau gwahanol yn y broses. Gallant dderbyn therapïau ailbennu rhyw megis therapi hormonau a gwahanol lawdriniaethau cadarnhau rhywedd i gysoni eu nodweddion rhywiol cynradd ac eilaidd â'u hunaniaeth rhywedd. Nid yw pob person trawsryweddol eisiau'r triniaethau hyn ac efallai bob eraill yn methu eu cael am resymau ariannol neu feddygol.[3][4] Gall y rhai sydd eisiau trawsnewid yn feddygol i ryw gwahanol uniaethu'n drawsrywiol.[5][6]
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Term mantell yw trawsrywedd. Yn ogystal â dynion traws a menywod traws, gall hefyd gynnwys pobl sy'n anneuaidd o ran rhywedd.[7][8] Mae diffiniadau eraill o drawsrywedd hefyd yn cynnwys pobl sy'n perthyn i drydydd rhywedd, neu mae rhai'n gweld pobl drawsryweddol fel trydydd rhywedd,[9][10] a gellir diffinio'r term yn eang iawn i gynnwys croes-wisgwyr.[11] Mae rhai pobl dau-enaid hefyd yn uniaethu'n drawsryweddol.[12]
Mae hunaniaeth rhywedd ar wahân i gyfeiriadedd rhywiol,[13] a gall pobl drawsryweddol fod yn rhan o unrhyw gyfeiriadedd rhywiol. Cyferbyn i drawsrywedd yw cydrywedd, sy'n disgrifio pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd yn cyfateb i'r rhyw a bennwyd.[14][15]
Amrywia ystadegau ar y nifer o bobl drawsryweddol yn eang,[16] yn rhannol oherwydd amrywiaeth diffiniadau o drawsrywedd.[17] Mae rhai gwledydd, megis Canada, yn casglu data cyfrifiad ar bobl drawsryweddol.[18] Yn gyffredinol, darganfyddir hunaniaeth drawsryweddol mewn llai nag 1% o boblogaeth y byd, â ffigurau yn amrywio o <0.1% i 0.6%.[19][20][21][22] Mae Cyfrifiad Cymru a Lloegr yn cynnwys cwestiwn am hunaniaeth rhywedd ers 2021[23][24], dywedodd 0.5% o'r boblogaeth nad yw'r rhywedd y maent yn uniaethu ag ef yn yr un peth a'r rhyw gofrestrwyd pan gawsant eu geni.
Mae llawer o bobl drawsryweddol yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle,[25] wrth ddefnyddio gwasanaethau[26] ac mewn gofal iechyd.[27] Yn llawer o leoedd, nis amddiffynnir rhag gwahaniaethu yn gyfreithiol.[28]
Cyn i ganol yr 20fed ganrif defnyddiwyd amryw o dermau o fewn a thu hwnt i wyddoniaeth meddygol a seicolegol y Gorllewin er mwyn cydnabod personau a hunaniaethau a labelwyd trawsrywiol (transsexual yn Saesneg) , ac yn nes ymlaen trawsryweddol (transgender yn Saesneg).[angen ffynhonnell] Fe'i benthyciwyd o'r Almaeneg ac fe'i modelwyd ar Transsexualismus Almaeneg (bathwyd ym 1923) yn y pen draw,[31] mae'r term Saesneg transsexual wedi mwynhau derbynioldeb rhyngwladol, ond mae transgender (1965, gan J. Oliven[32]) wedi dod yn y term well gan bobl dros transsexual.[angen ffynhonnell]
Bathodd seiciatrydd John F. Oliven o Brifysgol Columbia y term transgender yn ei gyfeirlyfr 1965 Sexual Hygiene and Pathology,[33] yn ysgrifennu bod y term a ddefnyddiwyd yn flaenorol, transsexualism (trawsrywioldeb), "yn gamarweiniol; mewn gwirionedd, 'transgenderism' (trawsryweddiaeth) a fwriedir, achos nad yw rhywioldeb yn brif ffactor mewn trawswisgaeth cynradd."[34][35] Poblogeiddiwyd y term transgender gyda diffiniadau gwahanol gan amrywiaeth o bobl drawsryweddol, trawsrywiol a thrawswisgol, gan gynnwys Virginia Prince,[36] a'i defnyddiodd yn rhifyn Rhagfyr 1969 Transvestia, cylchgrawn cenedlaethol i groes-wisgwyr iddi sefydlu.[37] Erbyn canol y 1970au, roedd trans-gender a trans people mewn defnydd fel termau ymbarél,[nodyn 1] ac defnyddiwyd transgenderist a transgenderal i gyfeirio at bobl sydd am fyw yn groes-ryweddol heb lawdriniaeth ailbennu rhyw.[38] Erbyn 1976, byrhawyd transgenderist fel TG mewn deunyddiau addysgol.[39]
Erbyn 1984, mae'r cysyniad o "gymuned drawsryweddol" wedi datblygu, lle y defnyddiwyd trawsrywedd fel term ymbarél.[40] Ym 1985, sefydlodd Richard Elkins y "Trans-Gender Archive" ym Mhrifysgol Ulster.[37] Erbyn 1992, diffiniodd Cynhadledd Ryngwladol ar Gyfraith a Pholisi Trawsryweddol drawsrywedd fel term ymbarél eang yn cynnwys "transsexuals, transgenderists, cross-dressers", ac unrhyw un yn trawsnewid.[41] Dynododd pamffled Leslie Feinberg, "Transgender Liberation: A Movement Whose Time has Come", a ddosbarthwyd ym 1992, drawsrywedd fel term i uno pob math o anghydffurfiaeth o ran rhywedd; yn y ffordd hon mae trawsrywedd wedi dod yn gyfystyr â queer.[42] Ym 1994, diffiniodd y damcaniaethydd Susan Stryker drawsrywedd fel term sy'n cwmpasu "pob hunaniaeth neu arferiad sy'n croesi dros, torri ar draws, symud rhwng, neu fel arall ffiniau rhyw/rhywedd wedi'u adeiladu yn gymdeithasol cwiar", gan gynnwys "trawsrywioldeb, trawswisgaeth heterorywiol, drag hoyw, lesbiadaeth bwtsh, a hunaniaethau di-Ewropeaidd o'r fath fel Berdache'r Americanwyr Brodorol neu Hijra India."[43]
Rhwng canol y 1990au a'r 2000au cynnar, y prif dermau a ddefnyddiwyd o dan ymbarél trawsrywedd oedd "female to male" (FtM) ar gyfer dynion sydd wedi trawsnewid o fenyw i wryw, a "male to female" (MtF) ar gyfer menyw sydd wedi trawsnewid o wryw i fenwy. Erbyn hyn, disodlwyd y termau hyn gan "trans man" (dyn traws) a "trans woman" (menyw draws) yn ôl eu trefn, ac mae'r termau "traws-wrywaidd" neu "traws-fenywaidd" mewn defnydd fwyfwy.[44] Mae'r newid mewn dewis o dermau sy'n pwysleidio rhyw biolegol ("trawsrywiol", "FtM") i dermau sy'n pwysleisio hunaniaeth a mynegiant rhywedd ("trawsryweddol", "menyw draws") yn adlewyrchu newid ehanach yn y ddealltwriaeth o ymdeimlad pobl drawsryweddol o'u hunain a'r gydnabyddiaeth gynyddol o'r rheini sy'n gwrthod ailbennu meddygol fel rhan o'r gymuned drawsryweddol.[44]
Trawsfenywaidd (transfeminine yn Saesneg) yw term ar gyfer unrhyw berson, deuaidd neu anneuaidd, a bennwyd yn wryw ar enedigaeth ac sydd â hunaniaeth rhywedd neu gyflwyniad rhywedd sy'n fenywaidd yn bennaf; trawswrywaidd (transmasculine yn Saesneg) yw'r term cyfatebol ar gyfer rhywun a bennwyd yn fenywaidd ar enedigaeth ac sydd â hunaniaeth rhywedd neu gyflwyniad rhywedd sy'n wrywaidd yn bennaf.[45]
Term cyffredin mewn llenyddiaeth hŷn yw transgendered (wedi'i trawsryweddu); mae llawer yn y gymuned drawsryweddol erbyn hyn yn ei resynu ar sail y ffaith bod transgender yn ansoddair, nid berf.[46] Hefyd, mae sefydliadau megis GLAAD a The Guardian yn dweud na ddylid defnyddio transgender fel enw.[47][48] Fodd bynnag, defnyddir transgender hefyd fel enw yn gyfwerth â'r pwnc ehangach o drawsryweddaeth, hynny yw hunaniaeth a phrofiad trawsryweddol.[49] Yn Gymraeg, gellir cyfieithu transgender fel naill ai trawsrywedd, sy'n enw, ynteu trawsryweddol, sy'n y ffurf ansoddeiriol.
Mae cyfarwyddiadur ymarferwyr iechyd, canllawiau steil newyddiadurwyr proffesiynol, a grwpiau eiriolaeth LHDT yn cynghori derbyn yr enw a'r rhagenwau a nodwyd gan y person dan sylw, gan gynnwys cyfeiriadau presennol at orffennol y person trawsryweddol.[50][51]
Ar y llaw arall, gelwir pobl sydd ag ymdeimlad o hunaniaeth personol sy'n yr un â'r rhyw a'r rhywedd a bennwyd iddynt ar eu genedigaeth – hynny yw, y rheini nad yw'n drawsryweddol nac yn anneuaidd – yn gydrywedd.[52]
.Fe'i hysbrydolwyd gan derm 1923 Magnus Hirschfeld seelischer Transsexualismus (Almaeneg am Trawsrywioldeb meddyliol), cyflwynwyd y term transsexual i'r Saesneg ym 1949 gan David Oliver Cauldwell[nodyn 2] a'i boblogeiddio gan Harry Benjamin ym 1966, tua'r un adeg ag y bathwyd transgender a dechrau'i boblogeidio.[36] Ers y 1990au, defnyddir transsexual yn gyffredinol wrth gyfeirio at yr is-set o bobl drawsryweddol[36][53][54] sy'n dymuno trawsnewid i'r rhywedd y maent yn uniaethu ag ef am byth ac yn ceisio cymorth meddygol (er enghriaifft, llawdriniaeth ailbennu rhyw) gyda hyn.
Seiliwyd gwahaniaethau rhwng y termau trawsrywedd a thrawsrywiol yn gyffredin ar gwahaniaethau rhwng rhywedd (seicolegol, cymdeithasol) a rhyw (corfforol).[55][56] Gan hynny, gellir dweud bod trawsrywioldeb yn ymwneud mwy ag arweddion corfforol rhyw person, tra bod trawsrywedd yn ymwneud mwy ag arweddion neu ragarweddion o ran rhywedd seicolegol, yn ogystal â'r disgwyliadau cymdeithasol perthynol a all gyd-fynd rôl rhywedd penodol.[57] Mae llawer o bobl drawsryweddol yn gwrthod y term trawsrywiol.[58][59][47] Gwrthododd Christine Jorgensen transsexual yn gyhoeddus ym 1979 ac yn lle uniaethodd ei hun mewn papurau newyddion fel trans-gender, yn dweud, "nid yw rhywedd yn ymwneud â phartneriaid y gwely, mae'n ymwneud â hunaniaeth.[60][61] Mae rhai wedi gwrthod y term trawsrywiol ar y sail ei fod yn disgrifio cyflwr sy'n gysylltiedig â hunaniaeth rhywedd yn hytrach na rhywioldeb.[62][nodyn 3] Mae rhai pobl drawsrywiol yn gwrthwynebu cael eu cynnwys yn yr ymbarél trawsrywedd.[63][64][65]
Yn ei lyfer 2007 Imagining Transgender: An Ethnography of a Category, mae'r anthropolegydd David Valentine yn honni y bathwyd a defnyddio transgender gan ymgyrchwyr i gynnwys llawer o bobl nad ydynt yn uniaethu â'r term o reidrwydd ac yn dweud na ddylid cynnwys pobl nad ydynt yn uniaethu â'r term trawsrywedd yn y sbectrwm trawsryweddol.[63] Yn yr un modd, mae Leslie Feinberg yn honni nad hunan-ddynodwr yw trawsrywedd (i rhai pobl) ond categori a osodir ar bobl gan sylwedyddion er mwyn deall pobl eraill.[64] Yn ôl y Rhaglen Iechyd Drawsryweddol (THP) yn Fenway Health ym Moston, nid oes diffiniadau a dderbynnir yn gyfanfydol, ac mae dryswch yn gyffredin achos gellir ystyried bod termau a oedd yn boblogaidd ar droad yr 21ain ganrif yn sarhaus. Mae'r THP yn argymell bod clinigwyr yn gofyn i gleientiaid pa derminoleg sy'n well ganddynt, ac yn osgoi'r term trawsrywiol oni fyddent yn sicr bod cleient yn gyfforddus ag ef.[62]
Dyfeisiodd Harry Benjamin system ddosbarthu ar gyfer trawsrywiolion a thrawswisgwyr, o'r enw Sex Orientation Scale (SOS), lle y neilltuodd drawsrywiolion a thrawswisgwyr i un o chwe chategori ar sail eu rhesymau dros groes-wisgo a brys cymharol eu hangen (os oes un) am lawdriniaeth ailbennu rhyw.[66] Mae barnau cyfoes ar hunaniaeth rhywedd a dosbarthu yn wahanol iawn i farnau gwreidiol Harry Benjamin.[67] Nid ystyrir cyfeiriadedd rhywiol mwyach fel maen prawf ar gyfer diagnosis, neu ar gyfer gwahaniaethu rhwng trawsrywioldeb, trawswisgaeth a ffurfau eraill o ymddygiad a mynegiant rhywedd-amrywiol. Gwnaethpwyd graddfa Benjamin i'w defnyddio â menywod traws, ac nid yw hunaniaethau dynion traws yn cyd-fynd â'i gategrïau.[68]
Mae rhai pobl anneuaidd (neu genderqueer) yn uniaethu'n drawsryweddol. Nid yw'r hunaniaethau hyn yn benodol wrywaidd nac yn benodol fenywaidd. Gallant fod yn anrhyweddol, androgynaidd, deuryweddol, hollryweddol, neu rywedd-hylif,[69] maent yn bodoli y tu allan i gydnormatifedd.[70][71] Categorïau gorgyffyrddol yw deurywedd ac androgynedd; gall unigolion deuryweddol uniaethu y maent yn symud rhwng rolau gwrywaidd a benywaidd (rhywedd-hylif) neu fel y maent yn wrywaidd ac yn fenywaidd ar yr un pryd (adrogynedd), ac, yn yr un modd, gall pobl androgynaidd uniaethu y maent y tu hwnt i rywedd neu'n di-rywedd (ôl-rywedd, anrhywedd), rhwng rhyweddau (rhyngrywedd), yn symud ar draws rhyweddau (rhywedd-hylif), neu'n arddangos rhyweddau lluosol ar yr un pryd (hollrywedd).[72] Defnyddir y Saesneg Androgyne (person androgynaidd) weithiau fel gair cyfystyr ar gyfer person rhyngryw.[73] Mae hunaniaethau anneuaidd yn annibynnol ar gyfeiriadedd rhywiol.[74][75]
Person sy'n croes-wisgo, neu'n gwisgo dillad a gysylltir yn gyffredinol â'r rhywedd gyferbyn â'r un a bennwyd iddynt ar eu genedigaeth yw trawswisgwr.[76][77] Defnyddir y term trawswigwr yn gyfystyr â croes-wisgwr,[78][79] er yr ystyrir croes-wisgwr fel y term gorau.[79][80] Ni ddiffinir y term croes-wisgwri yn y llenyddiaeth berthnasol yn union. Mae Michael A. Gilbert, athro yn Adran Athroniaeth, Prifysgol York, Toronto, yn cynnig y diffiniad hwn: "[Croes-wisgwr] yw person sydd â hunaniaeth rhywedd amlwg ag un rhyw, ac y'i dynodwyd yn perthyn i'r rhyw [hwnnw], ond sy'n gwisgo dillad y rhyw gyferbyn oherwydd taw dillad y rhyw gyferbyn ydyw."[81] Mae'r diffianiad hwn yn allgáu pobl "sy'n gwisgo dillad y rhyw gyferbyn am resymau eraill", megis "personadwyr benywaidd sy'n gweld gwisgo yn gysylltiedig â'u bywoliaeth, actorion yn gwneud rolau, gwrywod a benywod unigol yn mwynhau dawns fasgiau, ac yn y blaen. Mae'r unigolion hyn yn croes-wisgo ond nid croes-wisgwyr ydynt."[82] Gallai croes-wisgwyr beidio ag uniaethu â, bod ag eisiau bod yn, neu dderbyn ymddygiadau neu arferion y rhywedd gyferbyn ac nid ydynt yn gyffredin ag eisiau newid eu cyrff yn feddygol neu'n llawfyddegol. Mae'r rhan fwyaf o groes-wisgwyr yn uniaethu'n heterorywiol.[83]
Mae'r term trawswisgwr a'r term hen-ffasiwn cysylltiedig trawswisgaeth yn gysyniadol wahanol i'r term ffetisiaeth drawswisgol, gan fod ffetisiwr trawswisgol yn cyfeirio at y rheini sy'n defnyddio dillad y rhywedd gyferbyn yn ysbeidiol am ddibenion ffetisiaethol.[84][85] Mewn termau meddygol, gwahaniaethir ffetisiaeth drawswisgol oddi wrth groes-wisgo trwy ddefnyddio'r codau gwhanol, 302.3[85] yn y Cyfarwyddiadur Diagnostig ac Ystadegol ar gyfer Afiechyd Meddwl (DSM) ac F65.1[84] yn yr ICD
Dillad a cholur a wisgir ar achlysuron arbennig er mwyn perfformio neu adlonni yw drag, yn wahanol i'r rheini sy'n drawsryweddol neu'n croes-wisgo am resymau eraill.[86] Mae perfformiad drag yn cynnwyn cyflwyniad ac ymddygiad yn ogystal â dillad a cholur. Gall drag fod yn theatraidd, comedig, neu grostesg. Ystyrwyd taw gwawdluniau o fenywod yw brenhinesau drag gan ail don ffeministiaeth. Traddodiad hir yn niwylliant LHDT.
Yn gyffredinol, mae'r term brenhines drag yn cynnwys dynion yn gwneud drag benywaidd, mae brenin drag yn cynnwys menywod yn gwneud drag gwrywaidd, ac mae brenhines ffug yn cynnwys menywod yn gwneud drag benywaidd.[87][88] Er hynny, ceir artistiaid drag o bod rhywedd a rhywioldeb sy'n perfformio am resymau amrywiol. Nid yw perfformwyr drag yn drawsryweddol yn eu hanfod. Mae rhai perfformwyr drag, trawswisgwyr, a phobl yn y gymuned hoyw wedi cofleidio'r term a darddwyd yn bornograffig tranny (o'r Saesneg trans) am frenhinesau drag neu bobl sy'n cymryd rhan mewn trawswisgaeth neu groes-wisgo; fodd bynnag, ystyrir y term hwn yn sarhaus os y'i defnyddir i ddisgrifo pobl drawsryweddol.
Gwyddys bod pobl drawsryweddol yn bodoli ers amseroedd hynafol. Roedd gan ystod eang o gymdeithasau drydydd rolau rhywedd traddodiadol, neu fel arall, derbynient bobl draws mewn rhyw ffurf.[89] Fodd bynnag, mae hanes manwl gywir yn anodd oherwydd na ddatblygodd cysyniad modern trawsrywedd, a rhywedd yn gyffredinol, tan ganol y 1900au. Felly, hidlir dealltwriaethau hanesyddol trwy egwyddorion modern, ac ar y cyfan fe'u gwelid o safbwynt meddygol tan ddiwedd y 1900au.[90]
Mae'r meddyg Groeg hynafol Hippocrates (wrth ddehongli ysgrifen Herodotus) yn trafod trawsrywedd yn fyr, yn ei ddisgrifio fel "clefyd y Scythiaid", a briodolodd i reidio ceffyl heb warthaflau. Trafodid cyfeiriad Hippocrates yn dda gan ysgrifennau meddygol y 1500s–1700s. Ystyriodd Pierre Petit, wrth ysgrifennu ym 1596, y "clefyd Scythiaidd" fel amrywiaeth naturiol, ond erbyn y 1700au fe'i ystyriodd ysgrifenwyr fel clefyd seiciatrig "pruddglwyfus" neu "hysterig". Erbyn dechrau'r 1800au, honnid bod trawsrywedd ar wahân i syniad Hippocrates ohono yn hysbys iawn, ond ei fod yn aros wedi'i ddogfennu'n wael. Dyfynnwyd unigolion gwryw-i-fenyw a benyw-i-wryw yng ngwallgofdai Ewropeaidd dechrau'r 1800au. Daeth yr adroddiad mwyaf cyflawn o'r amser o fywyd y Chavalier d'Éon (1728–1810). Wrth i groes-wisgo ddod yn fwy cyffredinol yn niwedd y 1800au, cynyddodd trafodaeth pobl drawsryweddol yn fawr ac ceisiodd ysgrifenwyr esbonio gwraidd trawsrywedd. Daeth llawer o astudiaeth o'r Almaen, ac y'i allforiwyd i gynulleidfaoedd eraill y Gorllewin. Gwelid croes-wisgo mewn goleuni pragmatig tan ddiwedd y 1800au; cyflwynasai ddiben dychanol neu guddiol. Ond yn hanner olaf y 1800au, daeth croes-wisgo a bod yn drawsryweddol i gael eu hystyried fel perygl cymdeithasol cynyddol.[91]
Yn 1882, ysgrifennodd William A. Hammond adroddiad o siamaniaid Pwebloaidd (mujerados), wrth eu cymharu â chlefyd Scythiaidd. Roedd ysgrifenwyr eraill diwedd y 1700au a'r 1800au (gan gynnwys cymdeithion Hammond yn yr Cymdeithas Niwrolegol America) wedi nodi pa mor gyffredinol yw arferion diwylliannol trawsryweddol ymhlith pobl frodorol. Roedd esboniadau yn amrywiol, ni phriodolodd awdurau yn gyffredinol arferion trawsryweddol brodorol i achosion seiciatrig, yn lle y condermniasant yr arferoedd mewn synnwyr crefyddol a moesol. Darparodd grwpiau brodorol lawer o astudiaeth ar y pwnc, ac efallai taw'r rhan fwyaf o'r holl astudiaeth tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd oedd.[91]
Dechreuodd astudiaethau allweddol ymddangos yn gyntaf yn niwedd y 1800au yn yr Almaen, gyda gweithiau Magnus Hirschfeld. Bathodd Hirschfeld y term "Transvestit" ("trawswisgwr") ym 1910 wrth i gwmpas astudiaeth trawsrywedd dyfu. Arweiniai ei waith at sefydlu'r Institut für Sexualwissenschaft ym Merlin ym 1919. Er bod dadl am etifeddiaeth Hirscheld, chwyldrôdd y maes astudiaeth. Dinistriwyd yr Institut pan enillodd y Natsïaid rym ym 1933, ac llosgwyd ei ymchwil. Aeth materion trawsryweddol allan o lygad y cyhoedd tan ar ôl yr ail ryfel byd. Hyd yn oed pan ailymddangosasant, adlewyrchasant ddull seicoleg fforensig, yn wahanol i'r dull mwy rhywolegol a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil Almaenig goll.[91][92]
Mae'r cysyniadau o hunaniaeth rhywedd a hunaniaeth trawsryweddol yn wahanol i gyfeiriadedd rhywiol.[93] Atyniad rhamantus neu rywiol (neu gyfuniad y ddau) parhaol i berson arall yw cyfeiradedd rhywiol[94], tra taw synnwyr personol rhywun o'i rywedd ei hun yw hunaniaeth rhywedd (bod yn ddyn, yn fenyw neu'n rywbeth arall).[95][47] Mae gan bobl drawsryweddol fwy neu lai yr un amrywiaeth o gyfeiriadedd rhywiol fel pobl gydryweddol.[96] Yn y gorffennol, defnydiwyd y termau cyfunrywiol a heterorywiol yn anghywir i labelu cyfeiriadedd rhywiol unigolion trawsryweddol yn seiliedig ar ryw eu genedigaeth.[97] Yn aml, mae llenyddiaeth broffesiynol yn defnyddio termau fel wedi'i ddenu at ddynion (androffilig), wedi'i ddenu at fenywod (geineffilig), wedi'i ddenu at y ddau (deurywiol), neu wedi'i ddenu at nid y naill na'r llall (anrhywiol) i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol person heb gyfeirio at ei hunaniaeth rhywedd.[98] Mae therapyddion yn dechrau deall yr angen i ddefnydio termau mewn perthynas â hoffterau a hunaniaethau rhywedd eu cleientiaid.[99] Er enghraifft, nodid person a bennwyd yn wryw ar ei enedigaeth, sydd wedi trawsnewid i fenyw, ac a ddenir at ddynion yn heterorywiol.
Er gwaethaf y gwahaniaeth rhwng cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd, trwy hanes yr unig le y derbyniwyd pobl rywedd-amrywiol yn gymdeithasol yn y rôl rhywedd yr oeddent yn teimlo eu bod yn perthyn iddi oedd yr isddiwylliant hoyw, lesbiaidd a deurywiol; yn enwedig yn ystod yr amser pan oedd trawsnewid cyfreithiol neu feddygol bron yn amhosib. Mae'r derbyniad hwn wedi cael hanes cymhleth. Fel y byd ehanach, ni wahaniaethodd y gymuned hoyw yng nghymdeithasau'r Gorllewin yn gyffredinol rhwng rhyw a hunaniaeth rhywedd tan y 1970au, ac yn aml ystyried pobl rywedd-amrywiol yn fwy fel cyfunrywiolion a oedd yn ymddwyn mewn ffordd rywedd-amrywiol na phobl rywedd-amrywiol yn eu rhinwedd eu hunain. Yn ogystal, anwybyddwyd yn aml rôl y gymuned drawsryweddol yn hanes hawliau LHDT, fel y'i dangosir yn Transforming History.[100]
Yn 2015, cynhalioddd Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cydraddoldeb Trawsryweddol America Arolwg Gwahaniaethu Trawsryweddol Cenedlaethol. O'r 27,715 o bobl drawsryweddol ac anneuaidd a gymerodd yr arolwg, dywedodd 21% fod y term queer yn eu disgrifio'u cyfeiriadedd rhywiol orau, dywedodd 18% "pansexual", dywedodd 16% hoyw, lesbiaidd neu cariadus o'r un rhywedd, dywedodd 15% syth, dywedodd 14% deurywiol ac dywedodd 10% anrhywiol.[101] Ac dangosodd arolwg yn 2019 o bobl draws ac anneuaidd yng Nghanada o'r enw Trans PULSE Canada fod o blith 2,873 o ymatebwyr, pan drafodwyd cyfeiriadedd rhywiol, uniaethodd 13% yn anrhywiol, uniaethodd 28% yn ddeurywiol, uniaethodd 13% yn hoyw, uniaethodd 15% yn lesbiaidd, uniaethodd 31% yn hollrywiol, uniaethodd 8% yn syth neu'n heterorywiol, uniaethodd 4% yn ddau-enaid ac uniaethodd 9% yn ansicr neu'n cwestiynu.[102]
Argymhella'r rhan fwyaf o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol therapi ar gyfer gwrthdaro mewnol am hunaniaeth rhywedd neu anghysur mewn rôl rhywedd a bennwyd, yn enwedig os yw rhywun yn dymuno trawsnewid. Gall pobl sy'n profi anghytgord rhwng eu rhywedd a disgwyliadau pobl eraill neu sydd â hunaniaeth rhywedd yn groes i'w corff elwa ar siarad am eu teimladau mewn manylder; fodd bynnag, mae ymchwil ar hunaniaeth rhywedd o ran seicoleg, a dealltwriaeth wyddonol o'r ffenomen a'i faterion cysylltiedig, yn gymharol newydd.[103] Rhestrwyd y termau Trawsrywioldeb, Trawswisgaeth ddwy-rôl, anhwylder hunaniaeth rhywedd o blentyndod, Anhwylder hunaniaeth rhywedd mewn llanciau ac oedolion, ac Anhwylder hunaniaeth rhywedd na phennwyd fel arall felly yn Nosbarthiad rhyngwladol Afiechydon (ICD) gan Sefydliad Iechyd y Byd neu Lawlyfr Diagnostig ac Ystadegol Anhwylderau Meddwl (DSM) dan y codau F64.0, F64.1, F64.2, 302.85 a 302.6 yn y drefn honno.[104]
Tynnodd Ffrainc Anhwylder hunaniaeth rhywedd fel diagnosis trwy archddyfarniad yn 2010,[105][106] ond yn ôl sefydliadau hawliau traws Ffrengig, y tu hwnt i effaith y cyhoeddiad ei hun, nid oes dim byd wedi newid.[107] Yn 2017, diddymodd senedd Denmarc yr Anhwylderau hunaniaeth rhywedd F64. Yn ICD-11, gelir trawsrywedd a dysfforia rhywedd (anhwylder hunaniaeth rhywedd) yn Anghyfathiant rhywedd. Dilewyd trawswisgaeth ddwy-rôl oherwydd diffyg o berthansedd i iechyd y cyhoedd neu berthnasedd clinigol.[108] Ailenwyd Trawsrywioldeb yn Anghyfathiant rhywedd o lencyndod ac oedolaeth (HA60), ac ailenwyd Anhwylder hunaniaeth rhywedd o blentyndod yn Anghyfathiant rhywedd o blentyndod (HA61). Mae'r DSM-5 yn cyfeirio at y pwnc fel dysfforia rhywedd wrth atgyfnerthu na ystyrir bod yn drawsryweddol yn salwch meddwl.[109]
Gall pobl drawsryweddol fodoloni'r meini prawf ar gyfer diagnosis o ddysfforia rhywedd "dim ond os yw [bod yn drawsryweddol] yn achosi cyfyngder neu anabledd."[110] Gall y cyfyngder hwn ddod i'r amlwg fel iselder neu anallu i weithio a ffurfio perthnasau iach ag eraill. Yn aml, camddehonglir y diagnosis hwn fel y'i awgrymir bod pob person trawsryweddol yn dioddef dysfforia rhywedd, sydd wedi drysu pobl drawsryweddol a'r rheini sy'n ceisio naill ai eu beirniadu neu eu cadarnhau. Nid yw pobl drawsryweddol sy'n gyfforddus â'u rhywedd ac nad yw eu rhywedd yn achosi rhwystredigaeth fewnol neu amharu ar eu gweithredu yn uniongyrchol yn dioddef dysfforia rhywedd. Hefyd, nid yw dysfforia rhywedd yn barhaol o angenreidrwydd ac fe'i datrysir yn alm trwy therapi neu drawsnewid. Nid yw teimlo o dan ormes oherwydd agweddau ac ymddygiadau negyddol oddi wrth eraill fel endidau cyfreithiol yn dangos dysfforia rhywedd. Nid yw dysfforia rhywedd yn cyfleu barn o anfoesoldeb; barn y sefydliad seicolegol yw na ddylai pobl sydd â unrhyw fath o broblem meddwl neu emosiynol gael stigma. Yr ateb i ddysfforia rhywedd yw beth bynnag a leddfa ddioddefaint ac adfer swyddogaeth; mae'r ateb hwn yn aml, ond nid yn wastad, yn cynnwys trawsnewid rhywedd.[103]
Mewn hyfforddiant clinigol, ceir diffyg gwybodaeth berthnasol y mae ei hangen er mwyn helpu cleientiaid trawsryweddol yn ddigonol, sy'n arwain at nifer fawr o ymarferwyr nad ydynt yn barod i weithio'n ddigonol â'r boblogaeth o unigolion hon.[111] Ychydig iawn y mae llawer o ddarparwyr gofal iechyd meddwl yn ei wybod am faterion trawsryweddol. Mae'r rheini sy'n ceisio help oddi wrth y gweithwyr proffesiynol hyn yn aml yn eu dysgu heb gael help.[103] Mae'r datrysiad hwn fel arfer yn dda ar gyfer pobl drawsrywiol ond nid yw'n ddatrysiad ar gyfer pobl drawsryweddol eraill, pobl anneuaidd yn enwedig sydd heb hunaniaeth sy'n wryw neu'n fenyw yn unig. Yn lle, gall therapyddion gefnogi'u cleientiaid ym mha gamau y maent yn dewis i'w cymryd i drawsnewid neu gefnogi'u dewis i beidio â thrawsnewid tra hefyd yn mynd i'r afael ag ymdeimlad o gyfathiant rhwng hunaniaeth rhywedd ac ymddangosiad eu cleientiaid.[112]
Mae cydnabyddiaeth o ddiffyg hyfforddiant clinigol wedi cynyddu; beth bynnag, mae ymchwil ar y problemau penodol a wybebir gan y gymuned drawsryweddol mewn iechyd meddwl wedi canolbwyntio ar ddiagnosis a phrofiadau clinigwyr yn lle profiadau cleientiaid trawsryweddol.[113] Ni cheisiwyd therapi bob amser gan bobl drawsryweddol oherwydd anghenion iechyd meddwl. Cyn seithfed fersiwn y Safonau Gofal (SOC), roedd rhaid diagnosio unigolyn ag anhwylder hunaniaeth rhywedd er mwyn mynd ymlaen â thriniaethau hormonau neu lawdriniaeth ailbennu rhyw. Lleihaodd y fersiwn newydd y ffocws ar ddiagnosis ac yn lle pwysleisio pwysigrwydd hyblygrwydd er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd amrywiol yr holl bobl drawsrywiol, trawsryweddol ac anghydffurfiol o ran rhywedd.[114]
Mae'r rheswm dros geisio gwasanaethau iechyd meddwl yn amrywio yn ôl yr unigolyn. Nid yw person trawsryweddol yn ceisio triniaeth yn golygu bod ei hunaniaeth rhywedd yn broblematig. Mae'r straen emosiynol o ddelio â stigma a phrofi trawsffobia yn gwthio llawer o bobl drawsryweddol i geisio triniaeth i wella ansawdd eu bywyd, fel yr adlewyrchodd un ferch draws: "Daw unigolion trawsryweddol at therapydd ac nid yw'r rhan fwyaf o'u materion yn ymwneud, yn benodol, â bod yn drawsryweddol. Mae ymwneud â ffaith bod rhaid iddynt guddio, rhaid iddynt ddweud celwyddau, ac eu bod wedi teimlo'r holl euogrwydd a chywilydd hyn, yn anffodus am flyneddoedd!"[113] Mae llawer o bobl drawsryweddol hefyd yn ceisio triniaeth iechyd meddwl ar gyfer iselder a phryder a achosir gan y stigma ymghlwm wrth fod yn drawsryweddol, ac mae rhai pobl drawsryweddol wedi pwysleidio pwysigrwydd cydnabod eu hunaniaeth rhywedd gyda therapydd er mwyn trafod materion ansawdd bywyd arall.[113] Mae eraill yn difaru bod wedi cael triniaeth ac yn dymuno dad-drawsnewid.[115]
Erys problemau o amgylch camwybodaeth ynglŷn â materion trawsryweddol sy'n brifo profiadau iechyd meddwl pobl drawsryweddol o hyd. Amlygodd un dyn traws a gofrestrwyd mewn rhaglen graddedigion seicoleg y prif bryderion gyda hyfforddiant clinigol modern: "Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â'r term trawsrywedd o debyg, ond efallai dyna ef. Ni chredaf fy mod wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol yn mynd trwy raglenni [clinigol] yn unig ... Ni chredaf y gŵyr y rhan fwyaf [o therapyddion]. Y rhan fwyaf o therapyddion – lefel gradd Meistr, PhD – maent wedi cael ... un dosbarth amrywiaeth am faterion GLBT. Un dosbarth o'r hyfforddiant amrywiaeth enfawr. Un dosbarth. Ac roedd e am y ffordd o fyw hoyw yn bennaf o debyg."[113] Nid yw llawer o bolisïau yswiriant iechyd yn cwmpasu triniaeth sy'n gysylltiedig â thrawsnewid rhywedd, ac mae nifer fawr o bobl heb ddigon o yswiriant neu unrhyw yswiriant o gwbl, sy'n peri pryder am yr hyfforddiant annigonol a dderbyn y rhan fwyaf o therapyddion i weithio gyda chleientiaid trawsryweddol, yn cynyddu straen ariannol ar gleientiaid heb ddarparu'r driniaeth y maent ei hangen.[113] Mae llawer o glinigwyr sy'n gweithio gyda chleientiaid trawsryweddol yn derbyn hyfforddiant cyffredin gweddol ar hunaniaeth rhywedd yn unig, ond yn ddiweddar darparir hyfforddiant rhagarweiniol ar ryngweithio â phobl drawsryweddol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i helpu dileu rhwystrau a chynyddu lefel y gwasanaeth i'r boblogaeth drawsryweddol.[116] Ym mis Chwefror 2010, daeth Ffrainc yn y wlad gyntaf yn y byd i dynnu hunaniaeth trawsrywedd o'r rhestr o afiechydon meddwl.[117][118]
Canfu astudiaeth yn 2014 a gynhaliwyd gan y Williams Institute (melin drafod Prifysgol Califfornia, Los Angeles) fod 41% o bobl drawsryweddol wedi ceisio lladd eu hunain, gyda'r gyfradd yn uwch ymhlith pobl a brofodd wahaniaethu o ran mynediad at dai neu ofal iechyd, aflonyddu, ymosodiad corfforol neu rywiol, neu wrthod gan deulu.[119] Canfu astudiaeth ddilynol yn 2019 fod gan bobl drawsryweddol a oedd eisiau ac a dderbyniodd ofal meddygol cadarnhau rhywedd gyfraddau sylweddol is o feddyliau am ac ymgeisiau i ladd eu hunain.[120]
Mae awtistiaeth yn fwy cyffredin mewn pobl sy'n ddisfforig o ran rhywedd. Nid yw'n hysbys a oes sail fiolegol. Gallai hyn fod oherwydd bod pobl ar y sbectrwm awtistig yn llai pryderus am anghymeradwyaeth gymdeithasol, ac yn teimlo llai o ofn neu ataliad ynglŷn â dod allan yn draws nag eraill.[121]
Mae gweithdrefnau meddygol a llawfeddygol yn bodoli ar gyfer pobl drawsrywiol a rhai pobl drawsryweddol, ond ni wyddys y rhan fwyaf o gategorïau o bobl drawsryweddol fel y'u disgrifiwyd uchod am geisio'r triniaethau canlynol. Mae therapi amnewid hormonau i ddynion traws yn achosi tyfiant barf a gwryweidio croen, gwallt, llais a dosbarthiad braster. Mae therapi amnewid hormonau i fenywod traws yn benyweidio dosbarthiad braster a bronnau. Mae dileu gwallt laser neu electrolysis yn dileu gwallt gormodol i fenywod traws. Gall gweithdrefnau llawfeddygol i fenywod traws fenyweiddio'r llais, croen, wyneb, afal breuant, bronnau, gwasg, ffolen a'r organau cenhedlu. Gall gweithdrefnau llawfeddygol i ddynion traws wryweiddio'r frest a'r organau cenhedlu a thynnu'r groth, ofarïau, a'r tiwbiau ffalopaidd. Mae'r llythrenwau "GRS" a "SRS" yn cyfeirio at lawdriniaeth yr organau cenhedlu. Defnyddir y term "therapi ailbennu rhyw" (SRT) fel term mantell am weithdrefnau corfforol sydd eu hangen ar gyfer trawsnewid. Beirniadwyd defnydd y term "newid rhyw" am ei bwyslais ar lawdriniaeth, a'r term "trawsnewid" a ffafrir.[47][122] Mae argaeledd y gweithdrefnau hyn yn dibynnu ar raddau disfforia rhywedd, presenoldeb neu absenoldeb anhwylder hunaniaeth rhywedd,[123] a'r safonau gofal yn yr awdurdodaeth benodol.
Mae dynion traws nad ydynt wedi cael hysterectomi a sy'n cymryd testosteron mewn mwy o berygl o ganser endometriaidd oherwydd gellir trosi androstenedion, a wnaethpwyd o destosteron yn y corff, yn oestrogen, a ffactor risg ar gyfer canser endometriaidd yw oestrogen allanol.[124]
Stopio neu ddadwneud llawdriniaeth ailbennu rhyw neu drawsnewid rhywedd yw dad-drawsnewid. Mae astudiaethau ffurfiol am dad-drawsnewid yn ychydig o ran nifer,[125] o ansawdd dadleuol[126] ac yn wleidyddol ddadleuol.[127] Amrywia amcangyfrifon o'r gyfradd y mae dad-drawsnewid yn digwydd o lai nag 1% i gymaint ag 13%.[128] Mae gan bobl a chafodd lawdriniaeth ailbennu rhyw gyfraddau isel iawn o ddad-drawsnewid neu ddifaru.[129][130][131][132]
Casglodd Arolwg Trawsrywedd UD 2015 ymatebion o 27,715 o unigolion o oedd yn uniaethu'n "drawsryweddol, traws, genderqueer, [neu] anneuaidd".[133] Dywedodd 13.1% o'r ymatebwyr a benderfynodd gael cadarnhad rhywedd yn maent erioed wedi dad-drawsnewid, hyd yn oed dros dro. Roedd dad-drawsnewid yn gysylltiedig â phobl a bennywd yn wryw ar eu genedigaeth, hunaniaeth rhywedd anneuaidd a chyfeiriadedd deurywiol, ymlith cohortau eraill.[131] Dim ond 5% o ddad-drawsnewidwyr a ddywedodd eu bod wedi dad-drawsnewid oherwydd nad oedd trawsnewid rhywedd "iddynt hwy"; nododd 82% resymau allanol, gan gynnwys pwyl oddiwrth bobl eraill, anawsterau trawsnewid a gwahaniaethu.[134][135]
Mae gweithdrefnau cyfreithiol yn bodoli mewn rhai awdurdodaethau sy'n caniatáu i unigolion newid eu rhywedd neu enw cyfreithiol i adlewyrchu'u hunaniaeth rhywedd. Mae gofyniadau ar gyfer y gweithdrefnau hyn yn amrywio o ddiagnosis ffurfiol diamwys o drawsrywioldeb, i ddiagnosis o anhwylder hunaniaeth rhywedd, i lythyr oddi wrth feddyg a dystia drawsnewid rhywedd yr unigolyn neu'i fod wedi sefydlu rôl rhywedd gwahanol.[136] Ym 1994, newidiwyd cofnod DSM IV o "Trawsrywiol" i "Anhwylder hunaniaeth rhywedd". Mewn llawer o leoedd, ni amddiffynnir pobl drawsryweddol yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle neu mewn lletyau cyhoeddus.[28] Canfu adroddiad a ryddhawyd ym mis Chwefror i 90% o bobl drawsryweddol wynebu gwahaniaethu yn y gweithle a'u bod yn ddi-waith ar ddwywaith cyfradd y boblogaeth yn gyffredinol,[26] ac roedd dros hanner y rheini wedi cael eu haflonyddu neu'u gwrthod wrth ceisio cael gwasanaethau cyhoeddus.[26] Mae aelodau o'r gymuned drawsryweddol hefyd yn profi lefelau uwch o wahaniaethu mewn gofal iechyd.[137]
Mae 36 o wledydd yn Ewrop yn gofyn am ddiagnosis iechyd meddwl ar gyfer cydnabod rhywedd cyfreithiol ac mae 20 o wledydd yn gofyn am sterileidio o hyd.[138] Ym mis Ebrill 2017, dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop fod gofyn am sterileiddio ar gyfer cydnabod rhywedd cyfreithiol yn groes i hawliau dynol.[139]
Ym mis Tachwedd 2017, dyfarnodd y Llys Cyfansoddiadol Ffederal fod rhaid i'r gyfraith statws sifil ganiatáu trydydd dewisiad rhywedd.[140] Felly oherwydd cydnabod "trydydd rhywedd" yn swyddogol, ni fydd gan tystysgrifau geni gofnodion rhywedd gwag ar gyfer pobl ryngrywiol. Daeth y dyfarniad ar ôl i berson rhyngrywiol, nad yw'n ddyn nac yn fenwy yn ôl dadansoddiad cromosomaidd, ddod â her gyfreithiol ar ôl ceisio newid eu rhywedd cofrestredig i "rhwng" neu divers.[141]
Ar 11 Gorffennaf 2002, yn Goodwin v Y Deyrnas Unedig, dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y tresmaswyd ar hawliau i breifatrwydd a bywyd teuluol ac bod Llywodraeth y DU wedi gwahaniaethu ar sail y canlynol: Treisio Erthygl 8 ac Erthygl 12 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn dilyn y dyfarniad hwn, pasiodd Senedd y DU Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 a roddodd, i bob pwrpas, cydnabyddiaeth gyfreithiol lawn o bobl drawsryweddol ddeuaidd.[142] Ers 4 Ebrill 2005, yn unol â Deddf Cydnabod Rhywedd 2004, mae'n bosib i bobl drawsryweddol newid eu rhywedd cyfreithiol yn y DU. Mae rhaid i bobl drawsryweddol gyflwyno tystiolaeth i Banel Cydnabod Rhywedd, a fydd yn ystyried eu hachos ac yn rhoi Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (TCRh); mae rhaid iddynt fod wedi trawsnewid ddwy flynedd cyn y rhoddir TCRh. Nid oes angen cael llawdriniaeth ailbennu rhyw, fodd bynnag, derbynir llawdriniaeth o'r fath fel rhan o'r dystiolaeth ategol mewn achos pan y'i gwnaethpwyd.
Dynododd Deddf Cydraddoldeb 2010 "ailbennu rhywedd" fel "nodwedd gwarchodedig" yn swyddogol, yn dweud:[143]
Mae gan berson nodwedd gwarchodedig o ailbennu rhywedd os yw'n bwriadu cael, yn cael neu wedi cael proses (neu rhan o broses) er mwyn ailbennu'i ryw trwy newid priodweddau ffisiolegol neu arall o ryw.
Mae'r ddeddf hon yn amddiffyn pobl drawsryweddol yn y gweithle, mewn addysg, fel defnyddiwr, wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, wrth brynu neu rentu eiddo, neu fel aelod neu westai o glwb preifat neu gymdeithas.[144] Cynhwysir hefyd amddiffyn rhag gwahaniaethu trwy gysylltiad â pherson draws. Yn 2020, dyfarnodd achos llys Taylor v Jaguar Land Rover Ltd bod hunaniaethau rhywedd anneuaidd a rhywedd-hylif yn dod o dan y nodwedd gwarchodedig o ailbennu rhywedd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.[145]
Pennir awdurdodaeth dros ddosbarthiad cyfreithiol o ryw yng Nghanada i'r taleithiau a thiriogaethau. Mae hyn yn cynnwys newid dosbarthiad rhywedd yn gyfreithiol. Ar 19 Mehefin 2017, daeth Bil C-16, wedi pasio'r broses ddeddfwriaethol yn Nhŷ Cyffredin Canada ac yn Senedd Canada, yn ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol, a'i rhoddwyd mewn grym.[146][147][148] Diweddarodd y ddeddf Ddeddf Hawliau Dynol Canada a'r Cod Troseddol i gynnwys "hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd" fel seiliau gwarchodedig rhag gwahaniaethu, cyhoeddiadau casineb a dadlau o blaid hil-laddiad. Hefyd, ychwanegodd y bil "hunaniaeth a mynegiant rhywedd" at y rhestr o ffactorau gwaethygol mewn dedfrydu, pan yw'r cyhuddedig yn cyflawni trosedd yn erbyn unigolyn oherwydd y nodweddion personol hynny. Mae deddfau trawsryweddol tebyg hefyd yn bodoli yn yr holl daleithiau a thiriogaethau.[149] Gwaherddir therapi trosi yn nhaleithiau Manitoba,[150] Ontario[151] a Nova Scotia[152] a dinas Vancouver,[153] ond mae deddf Nova Scotia yn cynnwys cymal a ganiatâ i "mature minors", plant rhwng oedrannau 16 a 18, gydsynio iddo.
Yn yr Unol Daleithiau, amddiffynnir pobl drawsryweddol rhag gwahaniaethu mewn cyflogaeth trwy Deitl VII o Ddeddf Hawliau Sifil 1964. Mae eithriadau yn berthnasol i rai mathau o gyflogwyr, er enghraifft, cyflogwyr sydd â llai na 15 o gyflogeion a sefydliadau crefyddol.[154] Yn 2020, cadarnhaodd Goruchaf Lys yr UD fod Teitl VII yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsryweddol yn yr achos R.G. & G.R. Harris Funeral Homes Inc. v. Equal Employment Opportunity Commission.[155]
Aeth Nicole Maines, merch draws, ag achos i Goruchaf Lys Maine ym mis Mehefin 2013. Dadleuodd taw rhwystro mynediad i doiledau merched ei hysgol uwchradd oedd trais o Ddeddf Hawliau Dynol Maine; mae un barnwr talaith wedi anghytuno â hi,[156] ond enillodd Maines ei hachos llys yn erbyn ardal ysgolion Orono ym mis Ionawr 2014 o flaen Goruchaf Lys Barnwrol Maine.[157] Ar 14 Mai 2016, Cyhoeddodd Adran Addysg ac Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ganllawiau yn cyfarwyddo ysgolion cyhoeddus i ganiatáu i fyfyrwyr trawsryweddol ddefnyddio'r toiledau sy'n cyd-fynd â'u hunaniaethau rhywedd.[158]
Ar 30 Mehefin 2016, dileodd Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau y gwaharddiad a waharddodd bobl drawsryweddol rhag gwasanaethu yn agored yn lluoedd milwrol yr UD.[159] Ar 27 July 2017, trydarodd Arlywydd Donald Trump na fyddai Americaniaid trawsryweddol yn gallu gwasanaethu "in any capacity" yn Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau.[160] Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, datganodd Cadeirydd Cyd-benaethiaid Staff Joseph Dunford, "ni fydd unryw newidiadau i'r polisi presennol hyd nes y derbynnir cyfarwyddyd yr Arlywydd gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn ac mae'r ysgrifennydd wedi cyhoeddi canllawiau ar weithredu."[161] Yn ddiweddarach, gwrthdrodd Joe Biden bolisi Trump pan ddaeth yn Arlywyedd yn 2021.[162][163]
Ym mis Ebrill 2014, datganodd Goruchaf Lys India taw trawsrywedd fydd 'trydydd rhywedd' yng nghyfraith India.[164][165][166] Mae gan y gymuned drawsryweddol yn India (yn cynnwys Hijras ac eraill) hanes hir yn India ac mewn mytholeg Hindŵaidd.[167][168] Nododd Ustus KS Radhakrishnan yn ei benderfyniad taw, "anaml, y mae ein cymdeithas yn sylweddoli neu'n gofalu i sylweddoli'r trawma, ing a'r boen y mae'r aelodau o'r gymuned Drawsryweddol yn eu dioddef, nac yn gwerthfawrogi teimladau cynhenid yr aelodau o'r gymuned Drawsryweddol, yn enwedig teimladau'r rheini y mae eu meddwl a'u corff yn gwrthod eu rhyw biolegol", yn ychwanegu:
Justice KS Radhakrishnan noted in his decision that, "Seldom, our society realizes or cares to realize the trauma, agony and pain which the members of Transgender community undergo, nor appreciates the innate feelings of the members of the Transgender community, especially of those whose mind and body disown their biological sex", adding:
Mae gwrthod cydnabod hunaniaeth Hijras/personau trawsryweddol yn gwadu amddiffyniad cyfartal y gyfraith iddynt, o'r herwydd eu gadael yn eithriadol o agored i aflonyddwch, trais ac ymosodiad rhywiol mewn mannau cyhoeddus, gartref ac yn y carchar, hefyd gan yr heddlu. Cyflawnir ymosodiad rhywiol, gan gynnwys molestu, treisio, rhyw rhefrol a geneuol dan orfod, treisio gan bobl luosog a stripio, heb gosb ac mae ystadegau a deunyddiau dibynadwy sy'n cefnogi gweithgareddau o'r fath. Yn bellach, mae gwrthod cydnabod hunaniaeth Hijras/personau trawsryweddol yn arwain at iddynt wynebu gwahaniaethu eithafol ym mhob cylch o gymdeithas, yn enwedig ym maes cyflogaeth, addysg, gofal iechyd ayyb.[169]
Mae Hijras yn wynebu gwahaniaethu stwythurol gan gynnwys peidio â gallu cael trwyddedau gyrru, ac yn cael eu gwahardd rhag defnyddio buddion cydeithasol amrywiol. Hefyd, mae'n gyffredin iddynt gael alltudio o gymunedau.[170]
Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn ran o'r allgymorth i'r gymuned LHDT ers sawl blwyddyn ac yn parhau i wneud hynny trwy ganolfannau allgymorth trefol Ffransisgaidd, er enghraifft, yr Open Hearts outreach yn Hartford, Connecticut, yn yr UD.[171] Mae'r Fatican, ar y llaw arall, o'r farn na all pobl drawsryweddol ddod yn rhieni bedydd, ac maent yn cymharu trawsnewid â hunan-niwed.[172]
Mae barnau ffeministaidd ar fenywod trawsryweddol wedi newid dros amser, ond yn gyffredinol, daethant yn fwy cynhwysol. Gwelodd ail don ffeministiaeth wrthdaro yn erbyn menywod trawsryweddol, gan nas ystyrid fel menywod "gwir", ac fel yr oeddent yn meddiannu lleoedd i fenywod yn unig.[173][174] Er y dadleuai ail don ffeministiaeth o blaid gwahaniaeth rhyw a rhywedd, credai rhai ffeministiaeth bod gwrthdaro rhwng hunaniaeth trawsrywedd a'r achos ffeministaidd; e.e., credent fod trawsnewid gwryw-i-fenyw yn cefnu neu yn dibrisio hunaniaeth fenywaidd a bob pobl drawsryweddol yn cofleidio rolau rhywedd a stereoteipiau traddodiadol.[175] Erbyn ymddangosiad trydedd don ffeministiaeth (tua 1990), newidiasai barnau i fod yn fwy cynhwysol o ran hunaniaethau traws a hoyw.[176][177] Ar y cyfan, mae pedwaredd don ffeministiaeth (yn dechrau tua 2012) yn draws-gynhwysol, ond erys grwpiau a syniadau traws-anghynhwysol fel lleiafrif, un sy'n arbennig o amlwg yn y DU.[178][176][179] Gellir labeli pobl sy'n galw eu hunain yn ffeminyddion nad ydynt yn derbyn unigolion traws yn "trans-exclusionary radical feminists" ("ffeminyddion radical traws-anghynhwysol") neu TERFs.[180]
Mae unigolion trawsryweddol yn profi cyfraddau sylweddol o wahaniaethu mewn cyflogaeth. Mae tua 90% o bobl draws wedi profi rhyw fath o aflonyddu neu gam-drin yn eu gweithle. Ar ben hynny, mae 47% wedi profi rhyw fath o ganlyniad cyflogaeth anffafriol oherwydd bod yn drawsryweddol; o'r ffigur hwn, anwybyddwyd 44% am swydd, gwrthodwyd dyrchafiad i 23%, diswyddwyd 26% ar sail y ffaith eu bod yn drawsryweddol.[181]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Mae astudiaethau mewn sawl diwylliant wedi canfod bod menywod cydryweddol yn fwy tebygol o dderbyn pobl draws na dynion traws.[182][183][184][185]
Amcangyfrifodd astudiaeth o Swediaid gymhareb o 1.4:1 menywod traws i ddynion traws am y rheini yn ceisio llawdriniaeth ailbennu rhyw a chymhareb o 1:1 am y rheini a fwriodd ymlaen â hi.[186] Sylwodd astudiaeth yn 2020 taw, ers 1990, o ran y rheini yn ceisio therapi hormonau rhyw ar gyfer dysfforia rhywedd y mae cynnydd cyson yn y ganran o ddynion draws, fel y maent yn hafal i nifer menywod traws yn ceisio'r llawdriniaeth hon erbyn hyn.[187]
Y rhan hon yw dyfyniad o Achosion trawsrywioldeb .
Awgryma astudiaethau gefell fod achosion genetig tebygol trawsrywioldeb, er na ddeellir y genynnau manwl a ymwna ag ef yn llwyr.[188][189] Canfu un astudiaeth a gyhoeddwyd yn yr International Journal of Transgender Health taw 20% o barau gefeilliaid unfath lle yr oedd o leiaf un gefell yn draws yr oedd y ddau yn draws, o'i gymharu â dim ond 2.6% o efeilliaid heb fod yn unfath a fagwyd yn yr un teulu ar y cyd, ond nid oeddent yn enetig unfath.[189]
Creodd Ray Blanchard dacsonomi trawsrywioldeb gwryw-i-fenyw sy'n cynnig dwy achoseg wahanol ar gyfer unigolion androffilig a geineffilig sydd wedi dod yn ddadleuol, wedi'i gefnogi gan J. Michael Bailey, Anne Lawrence, James Cantor ac eraill, ond wedi'i wrthwynebu gan Charles Allen Moser, Julia Serano a'r Cymdeithas Broffesiynol Fyd-eang ar gyfer Iechyd Trawsryweddol.
Amlygodd astudiaeth arsylwadol fod gan bobl drawsryweddol yn derbyn therapi hormonau o Ganolfan Iechyd Prifysgol Amsterdam yn yr Iseldiroedd gyfraddau marwolaeth uwch na'r boblogaeth gyffredinol, ac na leihodd hyn yn ystod hyd yr astudiaeth (1972 i 2018). Mae astudiaethau eraill hefyd wedi canfod marwolaeth uwch mewn pobl drawsryweddol.[190]
Ychydig a wyddys am gyffredinolrwydd pobl drawsryweddol yn y boblogaeth gyffredinol ac effeithir y cyffredinolrwydd adroddedig yn fawr gan ddiffiniadau amrywiol o drawsrywedd.[191] Yn ôl adolygiad systematig yn 2016, amcangyfrifir bod 9.2 o bob 100,000 o bobl wedi derbyn neu geisio llawdriniaeth cadarnhau rhywedd neu therapi hormonau trawsryweddol; bod 6.8 o bob 100,000 o bobl wedi derbyn diagnosis sy'n benodol i drawsrywedd; a bod 355 o bob 100,000 o bobl yn uniaethu'n drawsryweddol .[191] Mae'r canfyddiadau hyn yn pwysleisio gwerth defnyddio terminoleg gyson sy'n gysylltiedig ag astudio profiad trawsrywedd, gan y gall astudiaethau sy'n archwilio therapi cadarnhau rhywedd llawfeddygol neu hormonaidd fod yn gysylltiedig â'r lleill sy'n dilyn diagnosis o "drawsrywioldeb", "anhwylder hunaniaeth rhywedd" neu "dysfforia rhywedd" neu beidio, a ni all unrhyw un ohonynt ymwneud â'r rheini sy'n asesu hunaniaeth hunan-gofnodedig.[191] Nid yw terminoleg gyffredin ar draws astudiaethau yn bodoli eto, felly gall niferoedd y boblogaeth fod yn anghyson, yn dibynnu ar sut y'u cyfrifir.
Yng Ngwlad Tai a Laos,[192] defnyddir y term kathoey i gyfeirio at bobl drawsryweddol wryw-i-fenyw[193] a dynion hoyw merchetaidd.[194] Dogfennwyd pobl drawsryweddol hefyd yn Iran,[195] Japan,[196] Nepal,[197] Indonesia,[198] Fietnam,[199] De Corea,[200] yr Iorddonen,[201] Singapôr,[202] a rhanbarth Tsieina fwyaf, gan gynnwys Hong Cong,[203][204] Taiwan,[205] a Gweriniaeth Pobl Tsieina.[206][207]
Mae diwylliannau isgyfandir India yn cynnwys trydydd rhywedd, y cyfeirir ato fel hijra yn Hindi. Yn India, ar 15 Ebrill 2014, cydnabu'r Goruchaf Lys drydydd rhywedd nad yw'n wryw nac yn fenyw, yn dweud, "Nid mater cymdeithasol neu feddygol yw cydnabod trawsryweddolion fel trydydd rhywedd, mater hawliau dynol ydyw."[208] Ym 1998, daeth Shabnam Mausi yn y person trawsryweddol cyntaf a etholwyd yn India, yn nhalaith ganolog Indiaidd Madhya Pradesh.[209]
Yn ôl Amnesty International yn 2017, mae 1.5 miliwn o bobl drawsryweddol yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd, sef 0.3% o'r boblogaeth.[210]
Canfu arolwg yn 2011 a gynhaliwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y DU taw o ran 10,026 o ymatebwyr, y dosbarthid 1.4% i grŵp lleiafrifoedd rhyweddol. Dangosodd yr arolwg hefyd fod 1% wedi gwneud unrhyw ran o broses ailbennu rhywedd (gan gynnwys meddyliau neu weithredoedd).[211]
Yn 2021, gofynnwyd cwestiwn am hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf mewn cyfrifiadau yn y DU yn 2021 yng Nghymru a Lloegr[23] ac yn 2022 yn yr Alban.[212] Ni gynhwyswyd cwestiwn o'r fath yn y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon.[213] Yng Nghymru a Lloegr, gofynnwyd "Ydy'r rhywedd rydych chi'n uniaethu ag ef yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?", atebodd 262,000 o bobl (0.5%) "Nac ydy".[24] Yng Nghymru roedd y ffigur ychydig yn is nag yn Lloegr, 0.4% yng Nghymru a 0.55% yn Lloegr.
Canfu arolwg 2017 o bobl LHDT+ Canada o'r enw LGBT+ Realities Survey taw o ran y 1,897 o ymatebwyr, yr oedd 11% yn uniaethu'n drawsryweddol (7% yn drawsryweddol deuaidd, 4% yn drawsryweddol anneuaidd) ac yr oedd 1% yn uniaethu'n anneuaidd y tu allan i ymbarél trawsrywedd.[214] Dangosodd arolwg 2019 o'r boblogaeth ddau-enaid ac LHDTC+ yn ninas Ganadaidd Hamilton, Ontario, o'r enw Mapping the Void: Two-Spirit and LGBTQ+ Experiences in Hamilton fod 27.6% o'r 906 o ymatebwyr yn uniaethu'n drawsryweddol.[215]
Awgrymodd arolwg Trans PULSE a gynhaliwyd yn 2009 a 2010 taw efallai fod cymaint ag 1 ym mhob 200 o oedolion yn draws (trawsryweddol, trawsrywiol, wedi trawsnewid) yn nhalaith Ganadaidd Ontario.[216]
Yn ôl Survey of Safety in Public and Private Spaces gan Statistics Canada yn 2018, roedd 0.24% o boblogaeth Canada yn uniaethu'n ddynion neu fenywod trawsryweddol neu'n unigolion anneuaidd. Gyda 95% o gyfwng hyder wedi'i gynhwyso, mae'r ffigur hwn yn newid i amrediad o 0.16% i 0.36%.[217]
Mae'r weinyddiaeth nawdd cymdeithasol yn olrhain rhyw dinasyddion ers 1936.[218] Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon, ynghyd â data'r Cyfrifiad, olrheiniodd Benjamin Cerf Harris gyffredinolrwydd dinasyddion yn newid i enwau sy'n gysylltiedig â'r rhyw arall neu'n newid marciwr rhyw. Darganfu Harris fod newidiadau o'r fath wedi digwydd mor gynnar â 1936. Amcangyfrifodd fod 89,667 o'r unigolion wedi'u cynnwys yng Nghyfrifiad 2010 wedi newid i enw rhywedd arall, hefyd roedd 21,833 ohonynt wedi newid marciwr rhyw.[218] Amrywiodd cyffredinolrwydd yn yr UD, o 1.4 i 10.6 y 100,000.[218] Er y newidiodd y rhan fwyaf o bobl enw a rhyw, newidiodd tua chwarter o bobl enw, ac yna bum mlynedd yn ddiweddarach newidiasant ryw.[218] Amcangyfrifodd Ira B. Pauly yn 1968 fod tua 2,500 o bobl drawsrywiol yn byw yn yr Unol Daleithiau, gyda phedair gwaith cymaint o fenywod traws na dynion traws[219]
Rhoddodd un ymgais i fesur y boblogaeth yn 2011 "amcangyfrif bras" bod 0.3% o oedolion yn yr UD yn drawsrywiol.[220][221] Amcangyfrifa astudiaethau mwy diweddar a gyhoeddwyd yn 2016 fod cyfran yr Americanwyr sy'n uniaethu'n drawsryweddol rhwng 0.5 i 0.6%. Byddai hyn yn rhoi cyfanswm yr americanwyr trawsryweddol ar tua 1.4 miliwn o oedolion (o 2016).[222][223][224][225]
Canfu arolwg gan y Pew Research Center yn 2017 fod cymdeithas America yn ranedig ynghylch "a yw'n bosib i rywun fod yn rywedd gwahanol o'r un a bennwyd iddynt ar eu genedigaeth."[226] Noda, "Yn gyffredinol, mae tua hanner o Americanwyr (54%) yn dweud y pennir p'un yw rhywun yn ddyn neu'n fenyw gan y rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth, tra mae 44% yn dweud y gall rhywun fod yn ddyn neu'n fenyw hyd yn oed os yw hynny'n wahanol i'r rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth."[226]
Yn yr hyn sydd bellach yn yr Unol Daleithiau a Chanada, mae rhai diwylliannau Americanwyr Brodorol a'r Cenhedloedd Cyntaf yn cydnabod bodolaeth mwy na dau rywedd yn draddodiadol,[227] megis y Zuni lhamana â chorff gwrwaidd,[228] y Lakota winkte â chorff gwrwaidd,[229] a'r Mohave alyhaa â chorff gwrwaidd a hwamee â chorff benywaidd.[230] Weithiau, rhan o gymuned Dau-enaid ban-Indiaidd gyfoes yw'r bobl draddodiadol hon, ynghyd â'r rheini o ddiwylliannau brodorol Gogledd America eraill.[229] Yn hanesyddol, yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau sydd â rolau rhyweddau eraill, os nad yw cymar person trydydd-rhyweddol fel arall yn rhywedd-amrywiol, nis ystyrid yntau yn rywedd arall, dim ond oherwydd eu bod mewn perthynas o'r un rhyw.[230] Ym Mecsico, mae gan ddiwylliant Zapotec drydydd rhywedd ar ffurf y Muxe.[231] Trydydd rhywedd traddodiadol yn Hawai'i a Thahiti yw Mahu. Gwerthfawrogir y Mahu fel athrawon, gofalwyr diwylliant ac iachawyr.
Yn niwylliannau America Ladin, unigolyn a bennwyd yn wryw ar ei enedigaeth ac sydd â hunaniaeth fenywaidd, drawsfenywaidd neu "femme" yw travesti. Mae travestis fel arfer yn cael triniaeth hornonol, defnyddio mynegiant rhywedd benywaidd gan gynnwys enwau a rhagenwau gwahanol i'r rhai gwrywaidd a roddir pan bennwyd rhyw, ac efallai eu bod yn defnyddio mewnblaniadau bron, ond ni chynigir llawdriniaeth ail-bennu rhyw iddynt neu nis ddymunant. Gellid ystyried travesti yn rywedd ynddo'i hun ("trydydd rhywedd"), cymysgedd rhwng dyn a menyw ("rhyngrywedd/androgyn"), neu'n bresenoldeb o hunaniaethau gwrywaidd a benywaiadd mewn person unigol ("deurywedd"). Fe'u fframir fel rhywbeth sy'n hollol wahanol i fenywod trawsryweddol, sydd â'r un hunaniaeth rhywedd â phobl a bennwyd yn fenyw ar eu genedigaeth.[232]
Mae hunaniaethau trawsryweddol eraill yn dod yn fwy hysbys, yn sgil cyswllt â diwylliannau eraill y byd gorllewinol.[233] Gelwir yr hunaniaethau newyddach, weithiau a roddir o dan ddefnydd ymbarél y term "genderqueer", ynghyd â'r term hŷn travesti, yn anneuaidd ac ânt ynghyd â hunaniaethau trawsryweddol deuaidd (y rheini a ddiagnosir yn draddodiadol o dan y label bellach wedi darfod o "drawsrywioldeb") o dan ymbarél unigol trawsrywedd, ond maent ar wahân i groes-wisgwyr a breninesau a brenhinoedd drag, y'u gwelir fel mynegiannau rhywedd anghyffurffiol yn hytrach na hunaniaethau rhywedd trawsryweddol pan wneir gwahaniaeth.[234]
Mae gan wyro oddi wrth y safonau cymdeithasol ar gyfer ymddygiad rhywiol, cyfeiriadedd/hunaniaeth rhywiol, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd derm ymbarél unigol a adnyddir fel sexodiverso neu sexodiversa yn Sbaeneg ac yn Bortiwgaleg, ac ei gyfieithiad agosaf yn Gymraeg yw "cwiar".[angen ffynhonnell]
Ymhlith pobl Acadiaidd hynafol y Dwyrain Canol, person a ddangosodd yn fenywaidd yn fiolegol ond a oedd â nodweddion gwrywaidd amlwg oedd salzikrum. Cyfansoddair yn golygu merch wrywaidd yw salzikrum. Yn ôl Cyfraith Hammurabi, roedd gan salzikrūm hawliau etifeddiaeth fel rhai offeriadesau; etifeddasent oddi wrth eu tadau, yn wahanol i ferched rheolaidd. Roedd tad salzikrum hefyd yn gallu mynnu ei bod yn etifeddu swm penodol.[235] Yn Rhufain Hynafol, disbaddid y Gallae,[236] dilynwyr y dduwes Phrygiaidd Cybele ac fe'u hystyrid yn drawsryweddol yn nhermau heddiw.[237][238]
Yn Median gynnar, cydnabyddid pobl Islamaidd wryw-i-fenyw amrywiol o ran rhywedd yn ffurf y Mukhannathun.[239][240] Hefyd, yn nhraddodiadau Fa'asamoa, caniatâ diwylliant Samoaidd rôl penodol ar gyfer unigolion trawsryweddol gwryw-i-fenyw fel Fa'afafine.
Mae pobl drawsryweddol yn amrywio'n fawr yn dewis pryd a sut maent am ddadlennu eu statws trawsryweddol i'w teulu, eu ffrindiau agos ac eraill, a pha un a ydynt am wneud felly ai peidio. Gall mynychder gwahaniaethu[241] a thrais (mae pobl drawsryweddol 28% yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trais)[242] yn erbyn personau trawsryweddol wneud dod allan yn benderfyniad peryglus. Ofn ymddygiad dialgar, megis cael eu tynnu o'u cartref rhieniol tra ydynt dan oed, yw achos i bobl drawsryweddol beidio â dod allan i'w teuluoedd hyd nes y dônt yn oedolion.[243] Gall dryswch rhieni a methiant i dderbyn plentyn trawsryweddol arwain at i rieni drin hunaniaeth rhywedd newydd eu dadlennu fel "cyfnod" ("phase" yn Saesneg) neu iddynt ymdrechu i newid eu plant yn ôl i "normal" trwy ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl i newid hunaniaeth rhywedd y plentyn.[244][245]
Gall y rhyngrwyd chwarae rhan bwysig ym mhroses dod allan ar gyfer pobl drawsryweddol. Mae rhai yn dod allan mewn hunaniaeth ar-lein yn gyntaf, yn darparu cyfler i fynd trwy brofiadau yn rhith ac yn ddiogel cyn peryglu sancsiynau cymdeithasol yn y byd real.[246]
Wrth i fwy o bobl drawsryweddol gael eu cynrychioli a'u cynnwys o fewn byd diwylliant poblogaidd, gall y stigma sy'n gysylltiedig â bod yn drawsryweddol ddylanwadu'r penderfyniadau, syniadau, a'r meddyliau sy'n seiliedig arno. Mae cynrychiolaeth yn y cyfryngau, diwydiant diwylliant ac ymyleiddio cymdeithasol i gyd yn awgrymu safonau diwylliannol poblogaidd a'r perthnasoldeb a'r pwysigrwydd i ddiwylliant poblogaidd hefyd. Mae'r termau hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio syniadau ar gyfer y rheini sydd ag ychydig o gydnabyddiaeth neu wybodaeth am bobl drawsryweddol. Dim ond sbectrwm bach iawn o'r grŵp trawsryweddol y mae portreadau yn y cyfryngau yn ei gynrychioli,[247] sy'n cyfleu, yn y bôn, taw'r rheini a ddangosir yw'r unig ddeongliadau a syniadau sydd gan gymdeithas ohonynt.
Fodd bynnag, yn 2014, cyrhaeddodd yr Unol Daleithiau "transgender tipping point", yn ôl y cylchgrawn Time.[248][249] Ar y pryd, cyrhaeddodd gwelededd pobl drawsryweddol yn y cyfryngau lefel uwch nag a welwyd o'r blaen. Ers hynny, mae'r nifer o borteadau trawsryweddol ar draws llwyfannau teledu yn aros yn uwch.[250] Mae ymchwil wedi darganfod bod gweld cymeriadau teledu trawsryweddol lluosog yn gwella agweddau gwelyddion tuag at bobl drawsryweddol a pholisïau cysylltiedig.[251]
Gŵyl flynyddol yn digwydd ar 31 Mawrth yw Diwrnod Rhyngwladol Gwelededd Trawsrywedd,[252][253] mae'n ymroddedig i ddathlu pobl drawsryweddol a chodi ymwybyddiaeth gwahaniaethu â wynebir gan bobl drawsryweddol yn fyd-eang. Sefydlwyd yr ŵyl gan yr actifydd trawsryweddol seiliedig ym Michigan[254] Rachel Crandall yn 2009.[255]
Dathliad un-wythnos cyn Diwrnod Cofio Trawsrywedd yw Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsrywedd. Ei diben yw addysgu am bobl drawsryweddol ac anghydffurfiol o ran rhywedd a'r materion sy'n gysylltiedig â'u trawsnewid neu eu hunaniaeth.[256]
Cynhelir Diwrnod Cofio Trawsrywedd bob blwyddyn ar 20 Tachwedd i anrhydeddu Rita Hester, a laddwyd ar 28 Tachwedd 1998 mewn trosedd casineb. Mae ganddo nifer o ddibenion:
Mae gorymdeithiau, protestiadau neu gynulliadau blynyddol yn digwydd ledled y byd ar gyfer materion trawsryweddol, yn aml yn digwydd yn ystod gorymdeithiau Balchder lleol ar gyfer pobl LHDT. Trefnir y digwyddiadau hyn yn aml gan gymunedau draws i adeiladu cymuned, mynd i'r afael â brwydrau hawliau dynol, a chreu gwelededd[258][259][260][261]
Baner Balchder Trawsryweddol yw symbol gyffredin ar gyfer y gymuned drawsryweddol, a ddyluniwyd gan yr Americanes draws Monica Helms ym 1999, ac a ddangoswyd yn gyntaf mewn gorymdaith balchder yn Phoenix, Arizona, yn 2000. Mae'r faner yn cynnwys pum streipen lorweddol: glas golau, pinc, gwyn, pinc a glas golau. Disgrifia Helms ystyr y faner fel a ganlyn:
Lliw traddodiadol ar gyfer bechgyn bach yw glas golau, mae pinc ar gyfer merched, ac mae'r gwyn yn y canol ar gyfer "y rheini sy'n trawsnewid, y rheini sy'n teimlo bod ganddynt rywedd niwtral neu ddim rhywedd", ac y rheini sy'n rhyngrywiol. Mae'r patrwm yn golygu taw "waeth pa ffordd y'i chwifir, bydd bob amser yn gywir. Mae hyn yn ein symboleiddio yn ceisio dod o hyn i gywirdeb yn ein bywydau ein hunain."[262]
Mae symbolau trawsryweddol eraill yn cynnwys y glöyn byw (yn symboleidio trawsnewid neu metamorffosis),[263] a symbol in ac iang pinc/glas golau.[264] Defnyddid nifer o symbolau rhywedd i gynrychioli pobl drawsryweddol, gan gynnwys ⚥ a ⚧.[265][266]
"Transgender deviance" p 110, "Transgender research" p 484, "transgender deviates" p 485, Transvestites not welcome at "Transgender Center" p 487CS1 maint: location (link)), (2006). The Transgender Phenomenon (Elkins, Richard; King, Dave (2006). The Transgender Phenomenon. Sage. t. 13. ISBN 978-0-7619-7163-4. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26.)
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.