Thomas Salusbury (ganed 1564)
cynllwynwr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mab hynaf Catrin o Ferain a Syr John Salusbury oedd Syr Thomas Salisbury (neu Salusbury; 1564 – 20 Medi 1586) a ddienyddiwyd fel teyrnfradwr yn 1586 am ei ran yng Nghynllwyn Babington. Ef oedd etifedd ystad enfawr Lleweni, Sir Ddinbych. Oherwydd ei ddienyddio, etifeddwyd yr ystad gan ei frawd John Salusbury (1566 - 1612), bardd ac Aelod Seneddol.[1][2]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thomas Salusbury | |
---|---|
Ganwyd | 1564 Dinbych |
Bu farw | 20 Medi 1586 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | John Salusbury |
Mam | Catrin o Ferain |
Plant | Margaret de Salisbury |
Cau
Priododd Margaret Wynn (merch Maurice Wynn, trydydd gŵr Catrin o Ferain), a'u merch Margaret, a etifeddodd Berain maes o law, ond aeth Lleweni, fel y nodwyd uchod, i ddwylo brawd ei gŵr, sef John Salusbury.