Taxus baccata
From Wikipedia, the free encyclopedia
Coeden fythwyrdd yw'r Taxus baccata (Enw Lladin) neu Ywen Gyffredin. Mae'n frodor o Ewrop, Gogledd Affrica a gogledd Iran lle mae bellach yn hynod o brin, ond sydd i'w gweld yn eitha cyffredin ym mynwentydd Cymru.
Ffeithiau sydyn Ywen, Dosbarthiad gwyddonol ...
Ywen | |
---|---|
Ywen | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pinoophyta |
Dosbarth: | Pinopsida |
Urdd: | Pinales |
Teulu: | Taxaceae |
Genws: | Taxus |
Rhywogaeth: | T. baccata |
Enw deuenwol | |
Taxus baccata L. | |
Cau
Mae'r ywen yn goeden sy'n tyfu'n araf ac yn byw i gryn oedran. Gall gyrraedd uchder o 12–20m. Ceir coed gwrywaidd a choed benywaidd, ac mae'r hedyn y tu mewn i'r aeron coch yn wenwynig. Ceir nifer sylweddol o goed yw yng Nghymru, yn bennaf mewn mynwentydd. Arferid defnyddio pren ywen ar gyfer y bwa hir. Credir fod yr ywen yn tyfu tua metr mewn canrif - o fesur o gwmpas ei bonyn.