Talsarnau
pentref yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Talsarnau ( ynganiad ). Saif ar y briffordd A496 rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9035°N 4.0646°W |
Cod SYG | W04000099 |
Cod OS | SH612358 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Ychydig i'r gorllewin mae Traeth Bach, aber Afon Dwyryd, ac Ynys Gifftan. I'r de o'r pentref, i gyfeiriad Harlech, mae ffermdy Y Lasynys Fawr, lle ganed Ellis Wynne (1671-1734), awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc.
Un arall o Dalsarnau oedd y nofelydd Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan), awdures Plant y Gorthrwm, a aned yno yn 1852 yn ferch i felinydd.