From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yn ne Sbaen, yn rhan orllewinol cymuned ymreolaethol Andalucía yw Talaith Huelva (ynganiad Sbaeneg: [ˈwelβa]). Mae'n ffinio â Phortiwgal, taleithiau Badajoz, Sevilla, a Cádiz, a Chefnfor yr Iwerydd. Ei phrifddinas yw Huelva.
Math | talaith o fewn Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Huelva |
Poblogaeth | 518,930, 525,835 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 10,128 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Talaith Cádiz, Talaith Sevilla, Talaith Badajoz, Beja, Faro |
Cyfesurynnau | 37.6667°N 7°W |
Cod post | 21 |
ES-H | |
Corff gweithredol | Diputación Provincial de Huelva |
Mae ganddi arwynebedd o 10,148 km². Mae'n cynnwys 79 o fwrdeistrefi. Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y dalaith boblogaeth o 527,254.[1]
Mae'r economi yn seiliedig ar amaethyddiaeth a mwyngloddio. Mae mwyngloddiau enwog Rio Tinto wedi cael eu gweithio ers cyn 1000 CC, a dyma oedd prif ffynhonnell copr yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae'r dalaith yn cynnwys y rhan fwyaf o Barc Cenedlaethol Doñana.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.