pentref From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cymru, yw Tai-bach, hefyd Taibach. Mae yn rhan ddeheuol tref Port Talbot, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,583.
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,799 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tai-Bach |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 550.69 ha |
Cyfesurynnau | 51.5864°N 3.769°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | David Rees (Llafur) |
AS/au | Stephen Kinnock (Llafur) |
Mae'r pentref yn rhedeg ar hyd yr A48, sydd â'r enwau "Commercial Road" a "Heol Margam" fan hyn. I'r ochor gorllewinol mae'r nant Ffrwdwyllt a Pharc Coffaol Talbot. Mae'n gartref i Glwb Rygbi Taibach.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2]
Magwyd Richard Burton a Llewellyn Heycock yma, a chymerodd y diwethaf y teitl "Arglwydd Heycock o Dai-bach".
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Tai-bach (pob oed) (4,799) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tai-bach) (354) | 7.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tai-bach) (4253) | 88.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tai-bach) (881) | 41.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.