Tân gwyllt
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o ddyfeisiadau pyrotechnegol, ffrwydrol a ddefnyddir fel rhan o ddathliadau ydy tân gwyllt. Gan amlaf, gwelir tân gwyllt fel rhan o arddangosfa gyhoeddus e.e. Agoriad yr Olympics. Mae gan dân gwyllt bedwar prif effaith: sŵn, golau, mwg a deunyddiau sy'n arnofio, (fel conffeti).
Gellir defnyddio gallu a sgil pyrotechnegol i greu i losgi gyda fflamau a gwreichion lliwgar, sydd fel arfer yn goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, porffor ac arian. Ceir arddangosfeydd ledled y byd ac maent yn ganolbwynt i nifer o ddathliadau crefyddol a diwylliannol.
Gelwir y tân gwyllt mwyaf llachar yn Mag Stars a'u tanwydd yw aliminiwm. Mae ambell danwydd yn wenwynig.