![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f7/Yogasutra_with_Patanjali%2527s_bhasya%252C_Sanskrit%252C_Devanagari_script%252C_random_sample_pages_f1v_f2r_f3v.jpg/640px-Yogasutra_with_Patanjali%2527s_bhasya%252C_Sanskrit%252C_Devanagari_script%252C_random_sample_pages_f1v_f2r_f3v.jpg&w=640&q=50)
Swtrâu Ioga Patanjali
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Swtrâu Ioga Patanjali (neu Ioga Swtra Patanjali) yn gasgliad o swtras Sansgrit (gwirebau) ar theori ac ymarfer ioga - 195 swtra (yn ôl Vyāsa a Krishnamacharya) a 196 swtras (yn ôl ysgolheigion eraill gan gynnwys BKS Iyengar). Y teitl llawn yw "Y Traethawd ar Ioga yn ôl Patañjali". Lluniwyd y Ioga Swtras yn y canrifoedd cynnar OC, gan y doethor Patanjali, yn India. Ef a drefnodd y wybodaeth am ioga o draddodiadau llawer hŷn.[1][2][3]
![]() Rhai tudalennau o lawysgrif hynafol Yogasutra (Sansgrit, Devanagari). Amlygir yr adnodau ac maent wedi'u hymgorffori y tu mewn i'r bhasya (sylwebaeth). | |
Enghraifft o'r canlynol | ysgrythurau a thestunau Hindŵaidd, gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Patanjali ![]() |
Iaith | Sansgrit ![]() |
Prif bwnc | ioga ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Mae'r Sutras Ioga yn fwyaf adnabyddus am ei gyfeiriad at yr wyth elfen a elwir yn ashtanga, wyth cangen o ymarfer sy'n arwain at samadhi, crynodiad y meddwl ar wrthrych y myfyrdod, sef: yr yama (ymatal), niyama (arsylwadau), asana (ystumiau ioga), pranayama (anadl rheolaeth), pratyahara (tynnu'r synhwyrau yn ôl), dharana (crynhoi'r meddwl), dhyana (myfyrdod) a samadhi (amsugno). Fodd bynnag, ei brif nod yw kaivalya, dirnadaeth purusha, y tyst-ymwybodol, sydd ar wahân i prakriti, y cyfarpar gwybyddol (the cognitive apparatus), ac anghysylltiad purusha oddi wrth halogiadau y prakriti.
Mae'r Ioga Swtras a adeiladwyd ar syniadau o'r Samkhya -ac o purusha a prakriti, yn aml yn cael eu hystyried yn gyflenwol iddo. Mae ganddo gysylltiad agos â Bwdhaeth, ac mae'n ymgorffori peth o'i derminoleg. Ac eto, gellir ystyried bod Samkhya, Ioga, Vedanta, yn ogystal â Jainiaeth a Bwdhaeth yn cynrychioli gwahanol amlygiadau o ffrwd eang o draddodiadau asgetig yn India hynafol, mewn cyferbyniad â thraddodiadau'r Bhakti a defodaeth y Vedig a oedd yn gyffredin ar y pryd.
Mae'r traddodiad Ioga cyfoes yn dyrchafu'r Swtras Ioga Patanjali i fod yn un o destunau sylfaenol athroniaeth ioga glasurol.[4][5] Fodd bynnag, mae David Gordon White,[6] wedi cwestiynu dylanwad y swtras ar systemateiddiadau diweddarach ioga oherwydd iddynt, o'r 12fed i'r 19g, fwy neu lai ddiflannu, gan ddychwelyd i boblogrwydd ar ddiwedd y 19g yn dilyn ymdrechion Swami Vivekananda, y Gymdeithas Theosophical ac eraill. Enillodd amlygrwydd fel clasur yn yr 20g. [6]