cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Llundain yn 1933 From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwneuthurwr ffilmiau sexploitation a Sais oedd Stanley Alfred Long (26 Tachwedd 1933 – 10 Medi 2012) oedd yn enwog am ei gomedïau rhyw a wnaed ar gyllideb isel yn y 1960au a'r 1970au.[1] Ei ffilm fwyaf llwyddiannus oedd Adventures of a Taxi Driver.
Stanley Long | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1933 Llundain |
Bu farw | 10 Medi 2012 Swydd Buckingham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, llenor, sgriptiwr, sinematograffydd |
Ganwyd yn Llundain.[2] Cychwynnodd ei yrfa fel ffotograffydd i'r Picture Post, cyn iddo wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol. Ar ôl gadael yr awyrlu, tynodd luniau noeth i gylchgrawn dynion.[1]
Cynhyrchodd ffilmiau â'i gwmni Stag Films, gan gynnwys mwy na 150 o ffilmiau byrion yn llawn maswedd a merched noeth. Gwnaed West End Jungle, ffilm ddogfen am y diwydiant rhyw yn Soho, a gafodd ei gwahardd gan y BBFC hyd at 2008.[1] Ymysg yr enwogion a ymddangosodd yn ei ffilmiau oedd Diana Dors, Liz Fraser, Irene Handl, Ian Lavender, a Pauline Collins. Miliwnydd oedd Long erbyn iddo gyrraedd 36 oed.[3]
Yn hwyrach, gweithiodd Long â'r cwmni ôl-gynhyrchu Salon ar ffilmiau gan gynnwys V for Vendetta a Batman Begins.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.