![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/13/%2527A_Conversation_With_Spike%2527_by_John_Somerville%252C_Stephens_House_and_Gardens%252C_Finchley_%2528cropped%2529.jpg/640px-%2527A_Conversation_With_Spike%2527_by_John_Somerville%252C_Stephens_House_and_Gardens%252C_Finchley_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Spike Milligan
actor Prydeinig (1918-2002) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Digrifwyr, actor, bardd ac awdur Prydeinig-Wyddelig oedd Terence Alan Patrick Seán "Spike" Milligan KBE (16 Ebrill 1918 – 27 Chwefror 2002).
Spike Milligan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Terence Alan Milligan ![]() 16 Ebrill 1918 ![]() Ahmednagar ![]() |
Bu farw | 27 Chwefror 2002 ![]() Rye ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | sgriptiwr, ysgrifennwr, digrifwr, newyddiadurwr, actor llwyfan, actor ffilm, bardd, actor, cerddor, actor teledu, dramodydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | KBE, Chortle Awards ![]() |
Ganwyd Milligan yn India, ei dad yn Wyddel a'i fam yn Saesnes. Treuliodd ei blentyndod yno, cyn dychwelyd i fyw a gweithio am rhan fwyaf o'i fywyd yn y Deyrnas Gyfunol. Nid oedd yn hoff o'i enw cyntaf a cychwynodd alw ei hun yn "Spike" ar ôl clywed band ar Radio Luxembourg o'r enw [Spike Jones and his City Slickers.[1][1][2][3]
Roedd Milligan yn un o gyd-greawdwyr, prif ysgrifenwyr a phrif aelod cast y rhaglen radio Brydeinig arloesol a dylanwadol The Goon Show, gan berfformio nifer o rannau yn cynnwys y cymeriad poblogaidd Eccles a Minnie Bannister. Ef oedd aelod hynaf o'r Goons, a'r hiraf i oroesi. Aeth Milligan o lwyddiant y Goon Show i fyd teledu gyda chyfres Q5, sioe sgets swreal a gydnabyddwyd fel dylanwad pwysig ar aelodau Monty Python's Flying Circus.