Meddalwedd cyfathrebu sy'n eiddo i Microsoft yw Skype (neu weithiau Sgeip). Mae'n galluogi defnyddwyr i gyfathrebu â'i gilydd drwy feicroffon, gwe-gamera, a negeseua sydyn ar y Rhyngrwyd.
Datblygwr | Microsoft Skype Division |
---|---|
Rhyddhad cychwynnol | Awst 2003 |
Iaith raglennu | Embarcadero Delphi, Objective-C (iOS, Mac OS X), C++ gyda Qt (Linux) |
system weithredu | iOS, Windows XP, Windows Vista, Windows 7, Windows 8, Mac OS X, Windows Phone, Blackberry OS, HP WebOS, Symbian, Android a Linux |
Cyfieithu parod | Nifer o ieithoedd |
Math | Voice over IP, negeseua sydyn, fideo gynhadledd |
Trwydded | Meddalwedd, gydag ychwanegiadau tâl |
Gwefan | skype.com |
Rhyddhawyd gyntaf yn 2003 gan y datblygwyr Ahti Heinla, Priit Kasesalu, a Jaan Tallinn, o Estonia,[1] a chafodd ei brynu gan Microsoft yn 2011 am $8.5 biliwn.[2] Heddiw lleolir pencadlys Skype yn Lwcsembwrg ond lleolir y rhan fwyaf o'r tîm datblygu a 44% o'r holl weithwyr yn Tallinn a Tartu, Estonia.[3][4]
Yn 2010 roedd gan Skype 663 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig.[5]
Er nad yw'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd sydd ar gael yn y fersiwn swyddogol, mae Microsoft wedi ei gwneud hi'n bosib i addasu iaith y rhyngwyneb oddi fewn i'r rhaglen. Yn Hydref 2013, cyhoeddwyd ffeil rhyngwyneb Cymraeg i Skype ar Windows gan Aled Powell. Mae'r ffeil ar gael i'w lawrlwytho am ddim ac yn cael ei diweddaru wrth i fersiynau newydd o Skype gael ei rhyddhau.[6]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.