Sgiwen fawr
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Sgiwen fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgiwennod mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Catharacta skua; yr enw Saesneg arno yw Great skua. Mae'n perthyn i deulu'r Sgiwennod (Lladin: Stercoraridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Sgiwen fawr Catharacta skua | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Stercoraridae |
Genws: | Stercorarius[*] |
Rhywogaeth: | Stercorarius skua |
Enw deuenwol | |
Stercorarius skua | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. skua, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Mae'r Sgiwen Fawr yn un o'r mwyaf o'r sgiwennod, tua 50–58 cm o hyd a 125–140 cm ar draws yr adenydd. Mae'n nythu yng Ngwlad yr Ia, Norwy, Ynysoedd Faroe ac ynysoedd yr Alban, ar dir agored fel rheol. Dodwyir dau wy fel rheol, ac mae'r aderyn yn ymosod ar unrhyw anifail sy'n dod yn rhy agos at y nyth, gan gynnwys bodau dynol. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de a thua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf, gan gyrraedd cyn belled ag arfordir Gogledd America.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas glannau Cymru yn yr hydref, a gellir gweld nifer llai yn y gwanwyn ac ambell un yn ystod y gaeaf.