![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/Rennes_-_Parlement_de_Bretagne.jpg/640px-Rennes_-_Parlement_de_Bretagne.jpg&w=640&q=50)
Senedd Llydaw
Senedd hanesyddol Llydaw a fodolau ar rhyw ffurf ers 9g o dan [[Dugaeth Llydaw]], wedi'r ymgorfforiad â Ffrainc ac hyd nes y Chwyldro Ffrengig. Nid yr un corff â Chyngor Rhanbarthol Llydaw gyfoes. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Senedd Llydaw (Llydaweg: Breujoù Breizh; Ffrangeg: Parlement de Bretagne) yn cynulliad a gyfansoddwyd yn y 13g gan Ddugau Llydaw. yn un o seneddau a llysoed barn o dan yr Ancien Régime ('Hen Drefn') Ffrengig cyn y Chwyldro Ffrengig, gyda'i sedd yn Roazhon a hefyd ar wahanol gyfnodau Gwened a Naoned. Ei enw'n wreiddiol oedd y Parlement général. Bu iddo gwrdd ar ei ffurf wreiddiol hyd yn 1554 cyn cael ei gau ar orchymyn Harri II, Brenin Ffrainc a daeth fwy o dan oruchafiaeth Paris. Roedd yn cael ei ariannu'n llawn gan y dalaith.[1] Roedd y Senedd yn estyn nôl o gyfnod Dugaeth Llydaw pan oed y wlad yn annibynnol ac yna'n hunanlywodraethol o fewn Teyrnas Ffrainc. Mae'r adeilad olaf i gartrefu'r Senedd yn dal i sefyll ac mae bellach yn gartref i Lys Apêl Roazhon, olynydd naturiol y Senedd.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | senedd ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1790 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1554 ![]() |
Sylfaenydd | Harri II, brenin Ffrainc ![]() |
Pencadlys | Palace of the Parlement of Brittany ![]() |
Rhanbarth | Roazhon ![]() |
![]() |
Yn 1982 sefydlwyd Gyngor Rhanbarthol Llydaw ond nid yw hwn wedi ei lleoli yn yr hen senedd-dŷ ac nid oes ganddi yr un grymoedd na llinach â'r hen Senedd gynhenid.