![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/LouisXVIExecutionBig.jpg/640px-LouisXVIExecutionBig.jpg&w=640&q=50)
Y Chwyldro Ffrengig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Chwyldro Ffrengig (o 1789 hyd 1799) yn gyfnod yn hanes Ffrainc pan wnaeth y gweriniaethwyr ddymchwel y frenhiniaeth ac fe aeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig mewn canlyniad trwy gyfnod o ailstrwythuro sylfaenol yn Ffrainc. Tra y bu Ffrainc yn cyfnewid yn ôl ac ymlaen rhwng gweriniaeth, ymerodraeth a brenhiniaeth am 75 mlynedd yn dilyn cwymp y Weriniaeth Gyntaf i law Napoleon Bonaparte, roedd y chwyldro er hynny yn arwyddo diwedd yr ancien régime gan roi y rhai a ddilynodd yn y cysgod yn nychymyg pobl Ffrainc.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad hanesyddol, chwyldro ![]() |
---|---|
Dyddiad | 5 Mai 1789 ![]() |
Dechreuwyd | 14 Gorffennaf 1789 ![]() |
Daeth i ben | 9 Tachwedd 1799 ![]() |
Lleoliad | Ffrainc ![]() |
Yn cynnwys | Teyrnasiad Braw, cyhoeddi diddymiad y frenhiniaeth ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/43/Sans-culotte.jpg/640px-Sans-culotte.jpg)
Effeithiodd y Chwyldro Ffrengig nid yn unig ar Ffrainc ond ar weddill Ewrop hefyd, a chafodd gryn effaith ar y tiroedd Almaenaidd. Roedd yr hyn a ddechreuodd fel protest gan yr aristocratiaid yn erbyn Louis XVI, brenin Ffrainc a’i frenhiniaeth absoliwt, i ragflaenu chwyldro mawr a newidiodd hanes a golwg Ewrob.
Daeth grŵp o'r enw y Girondistes, o ardal Bordeaux, i rym ond fe’u gwrthwynebwyd gan grŵp y Jacobins. Disodlwyd y Jacobins gan y Directoire, sef grŵp o’r dosbarth canol a oedd wedi uno â’r Girondistes, ac fe gafwyd llywodraeth newydd gymedrol. Daethant i bwer ym 1794 ond erbyn 1799 ystyriwyd hwy yn llygredig ac fe gymerodd Napoleon yr awenau. Daeth Napoleon i bwer a chymorth y fyddin ac fe lywodraethodd fel teyrn. Yr angen am sefydlogrwydd a gwarediad y chwyldro llygredig a barodd parodrwydd y bobl i dderbyn Napoleon er ei fod yn unben. Daeth Napoleon a threfn newydd ond ailsefydlodd llawer o hen sefydliadau’r chwyldro a oedd wedi dirywio hefyd. Er yn unben, yr oedd yn ddyn goleuedig, a chyflwynodd system weinyddol ddiwygiedig. Diwygiodd y system addysg gan fynnu i bawb gael addysg. Diwygiodd y system gyfreithiol i greu y Code Napoleon, a oedd yn cynnwys datganiad o hawliau dynol.