Senedd Ewrop
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o ganghennau deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ac un o'i saith sefydliad yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd). Gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd, mae hi'n deddfu deddfwriaeth Ewropeaidd, yn gyffredin ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Senedd yn cynnwys 705 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau). Mae hi'n cynrychioli'r ail etholwyr mwyaf yn y byd (ar ôl Senedd India) a'r etholwyr democrataidd traws-wladol mwyaf yn y byd (375 miliwn o bleidleiswyr cymwys yn 2009)[1][2]
Senedd Ewrop | |
---|---|
Nawfed Senedd Ewrop | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Sefydlwyd | 10 Medi 1952 (1952-09-10) |
Math | Tŷ weithdrefn ddeddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd |
Tymhorau | dim |
Arweinyddiaeth | |
Llywydd | David Sassoli, S&D ers 3 Gorffennaf 2019 |
Is-lywydd Cyntaf | Roberta Metsola, EPP ers 12 Tachwedd 2020 |
Is-lywyddion | 13
|
Ysgrifennydd Cyffredinol | Klaus Welle ers 15 Mawrth 2009 |
Arweinwyr y grwpiau | 10
|
Cyfansoddiad | |
Aelodau | |
Grwpiau gwleidyddol | 8
|
Pwyllgorau | 22
|
Hyd tymor | 5 Mlynedd |
Tâl | €8,932.86 (gross per month) |
Etholiadau | |
System bleidleisio | Dewiswyd gan aelod wladwriaeth, systemau gan gynnwys:
|
Etholiad diwethaf | 23–26 Mai 2019 |
Etholiad nesaf | 2024 |
Arwyddair | |
Unedig mewn amrywiaeth | |
Man cyfarfod | |
Louise Weiss: Strasbwrg, Ffrainc | |
Man cyfarfod | |
Espace Léopold: Brwsel, Gwlad Belg | |
Gwefan | |
europarl.europa.eu |
Ers 1979, etholir y Senedd yn uniongyrchol bob pum mlynedd gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd trwy bleidlais gyffredinol. Mae'r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau seneddol wedi lleihau bob tro ar ôl 1979 tan 2019, pan cynyddwyd y nifer gan 8 y cant, ac aeth yn uwch na 50% am y tro cyntaf ers 1994.[3] 18 oed yw'r oedran pleidleisio ym mhob Aelod-wladwriaeth ac eithrio ym Malta ac Awstria, lle mae'n 16 oed, a Gwlad Groeg, lle mae'n 17 oed.[4]
Er bod gan Senedd Ewrop bŵer deddfwriaethol, fel y mae y Cyngor, nid oes ganddi'r hawl menter – sydd yn hawl y Comisiwn Ewropeaidd – fel y rhan fwyaf o seneddau gwladol yr aelod-wladwriaethau.[5][6] “Sefydliad cyntaf” yr Undeb Ewropeaidd yw hi (soniwyd yn gyntaf yn ei gytundebau a bod gan flaenoriaeth seremonïol dros sefydliadau eraill yr UE),[7] a rhannu pwerau deddfwriaethol a chyllidebol cyfatal gyda’r Cyngor (ac eithrio ar ychydig o faterion lle gweithreda gweithdrefn deddfwriaethol arbennig). Hefyd, mae ganddi reolaeth cyfartal dros gyllid yr UE. Yn y pen draw, mae’r Comisiwn Ewropeaidd, sydd yn gwasanaethu fel cangen weithredol yr UE, yn atebol i’r Senedd. Yn enwedig, gall y Senedd benderfynu a ddylid cymeradwyo enwebai’r Cyngor Ewropeaidd ar gyfer Arlywydd y Comisiwn, ac mae hi ymhellach yn gyfrifol am gymeradwyo (neu wrthod) penodi’r Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Gall hi wedyn gorfodi’r Comisiwn cyfredol i ymddiswyddo gan deddfu cynnig cerydd.[5]
Llywydd Senedd Ewrop yw David Sassoli (PD) etholwyd yn Ionawr 2019. Mae e’n llywyddu dros siambr aml-blaid, y pum grŵp mwyaf yw grŵp Plaid Pobl Ewrop (EPP), Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid (S&D), Renew Europe, y Gwyrddion/Cynghrair Rhydd Ewrop (Gwyrddion–EFA) ac Hunaniaeth a Democratiaeth (ID). Etholiadau 2019 oedd yr etholiadau UE-gyfan diwethaf.
Mae pencadlys y Senedd yn Strasbwrg, Ffrainc,[8] a’i swyddfeydd gweinyddol yn Ninas Lwcsembwrg. Mae sesiynau llawn yn digwydd yn Strasbwrg yn ogystal â Brwsel, Gwlad Belg, wrth i gyfarfodydd pwyllgor y Senedd yn digwydd yn bennaf ym Mrwsel.[9]