From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Sara Yorke Stevenson (19 Chwefror 1847 - 14 Tachwedd 1921) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd, hanesydd, archeolegydd, eifftolegydd, curadur yn ogystal â'i hymgyrch dros hawliau menywod. Roedd yn un o sefydlwyr Amgueddfa Archaeoleg ac Anthropoleg Prifysgol Pennsylvania ac ysgrifennai'n rheolaid i'r Philadelphia Public Ledger.
Sara Yorke Stevenson | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1847 Paris |
Bu farw | 14 Tachwedd 1921 |
Man preswyl | Philadelphia, Paris |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd, archeolegydd, eifftolegydd, curadur, swffragét |
Cyflogwr |
Cafodd ei geni ym Mharis ar 19 Chwefror 1847.
Fel ysgolhaig, cyhoeddodd Stevenson lyfrau ac erthyglau ar Eifftoleg a diwylliant materol yr hen Ddwyrain Agos, yn ogystal â chofiant am deyrnasiad Maximilian I o Fecsico. Hi oedd curadur cyntaf Casgliad yr Aifft yn Amgueddfa Penn a chwaraeodd ran bwysig wrth gaffael llawer o'r casgliad. Fel ymgyrchydd hawliau menywod, gwasanaethodd fel llywydd cyntaf y Gymdeithas Rhyddfreintiau Cyfartal (the Equal Franchise Society) a Chlwb Dinesig Philadelphia. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Pennsylvania, y fenyw gyntaf i ddarlithio yn Amgueddfa Peabody ym Mhrifysgol Harvard, a'r aelod benywaidd cyntaf o the Jury of Awards for Ethnology yn Arddangosfa Columbian y Byd yn Chicago.[1][2][3]
Rhieni Stevenson oedd Edward Yorke (20 Rhagfyr 1798 hyd at 1868) a Sarah Hanna Yorke, a briododd yn New Orleans, Louisiana ym 1834 ac a symudodd i Baris yn ystod yr 1840au. Daeth y ddau ohonynt o deuluoedd cyfoethog: roedd teulu ei mam yn berchen ar blanhigfa cotwm fawr ac roedd ei thad yn frocer cotwm.
Ganed Sara Letitia Yorke (enw bedydd) yn y Rue de Courcelles ym Mharis ar 19 Chwefror, 1847. Symudodd rhieni Sara yn ôl i'r Unol Daleithiau America pan oedd Sara'n ddeg oed, gan adael eu merched i fynd i ysgol breswyl yn Ffrainc. Bu'n byw ym Mharis o 1858 hyd 1862 dan warcheidiaeth M. Achille Jubinal, a ysbrydolodd ei diddordeb cynnar mewn archaeoleg ac Eifftoleg.[4]
Yn 1862, gadawodd Ffrainc ar long, ac ymfudodd i Fecsico. Yn 1862 symudodd teulu Yorke i Tacubaya, un o faestrefi Dinas Mecsico, yn dilyn llofruddiaeth brawd Sara, Ogden. Ym Mecsico, mynychodd lawer o gynulliadau cymdeithasol a drefnwyd gan Charlotte o Wlad Belg a'i gŵr Maximilian. bu'r cyfnod hwn o ddefnydd iddi mewn llyfr a ysgrifennodd flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 1867, ymfudodd y teulu eto, i Vermont (UDA), ond bu ei thad farw flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1868, a Sara yn ddim ond 21 oed. Symudodd Sara i Philadelphia i fyw gyda dau o'i hewyrthod a modryb.
Mae'r dyfyniad canlynol yn dangos aeddfedrwydd Sara yn y cyfnod roedd yn ysgrifennu:
“ | The days of useless martyrdom are over, also those of heroic sacrifice where it is not needed. What we need to do today is not to slaughter men and parties who do not happen to think as we do … but to educate them, teach them to see, to know, to love, to feel, to grow.[5] | ” |
Bu'n aelod o Gymdeithas Athronyddol Americana am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.