athronydd a diwinydd canoloesol (1220-1294) From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd o Loegr oedd Roger Bacon (tua 1220 – 1292), a adnabyddir gan yr acolâd Lladin Doctor Mirabilis, sy'n nodedig fel un o'r cyntaf i arddel arbrofoliaeth yn yr Oesoedd Canol.[1]
Roger Bacon | |
---|---|
Ffugenw | Doctor Mirabilis |
Ganwyd | Roger Bacon c. 1220 Gwlad yr Haf, Ilchester, Bisley |
Bu farw | c. 1292 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, ffisegydd, diwinydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, astroleg, alchemydd, cyfieithydd, dyfeisiwr, mathemategydd, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Opus Majus, Opus Minus, Opus Tertium, Summa Grammatica |
Prif ddylanwad | William of Sherwood |
Mudiad | Ysgolaeth |
Ganwyd yn Ilchester, Gwlad yr Haf. Astudiodd fathemateg, cerddoriaeth, a seryddiaeth ym mhrifysgolion Rhydychen a Pharis. Addysgodd athroniaeth ym Mharis o 1240 i 1247, ac yn Rhydychen o 1247 i 1257. Ymchwiliodd i opteg ac alcemi, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i ddisgrifio'r broses o gynhyrchu powdwr gwn a'r cyntaf i argymell defnyddio drychau a lensys i ymchwilio i'r byd naturiol.
Ymunodd ag Urdd Sant Ffransis tua 1257. Bu'r urdd honno yn gwahardd astudiaethau am y byd meidrol ac ysgrifeniadau seciwlar, ond ar gais y Pab Clement IV fe gyflawnodd dri gwaith: Opus majus, Opus minus, ac Opus tertium. Cynigiodd gwricwlwm newydd ar gyfer prifysgolion Ewrop i addysgu mathemateg, ieithoedd (yn enwedig Groeg, Arabeg, ac Hebraeg), alcemi, a gwyddoniaeth, a hynny drwy ddulliau arsylw a mesur.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.