hanesydd, llenor a golygydd y From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd ac awdur o Gymru oedd Robert Thomas Jenkins, yn ysgrifennu fel R. T. Jenkins (31 Awst 1881 - 11 Tachwedd 1969).[1]
Ganed ef i deulu Cymreig yn Lerpwl, ond symudodd y teulu i ddinas Bangor pan oedd yn ieuanc. Collodd ei fam a'i dad cyn bod yn naw oed, a magwyd ef gan deulu ei fam yn y Bala. Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Saesneg ac yna i Goleg y Drindod, Caergrawnt.[1]
Bu'n athro ysgol yn Llandysul, Aberhonddu a Chaerdydd. Yn 1930 penodwyd ef yn ddarlithydd annibynnol yn adran Hanes Cymru ym Mangor. Yn 1938 daeth yn olygydd cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig, a phan fu farw Syr John Edward Lloyd yn 1947 daeth yn gyd-olygydd â Syr William Llewelyn Davies. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg o'r Bywgraffiadur yn 1953 a'r fersiwn Saesneg yn 1959. Dyfarnwyd gradd D.Litt. Prifysgol Cymru iddo yn 1939 a LL.D. honoris causa (Cymru) yn 1956. Daeth yn Athro yn yr Adran Hanes yn 1945.[1]
Ysgrifennodd rai storïau byrion a Ffynhonnau Elim dan yr enw Idris Thomas.[1]
Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas o academwyr a llenorion a ymdrechai dros godi statws a defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg, bywyd cyhoeddus a'r radio.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.