gwleidydd a pherchennog llongau From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Syr Robert John Thomas (23 Ebrill 1873 - 27 Medi 1951) yn berchennog llongau ac yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol [1].
Robert John Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ebrill 1873 Bootle |
Bu farw | 27 Medi 1951 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diwydiannwr |
Swydd | Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | William Thomas |
Priod | Marie Rose Burrows |
Plant | Aubrey Ena Thomas, William Eustace Rhuddlad Thomas, Robert Freeman Thomas, Margaret Rosemary Thomas |
Ganwyd Syr Robert John Thomas yn Bootle, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i William a Catherine Thomas.[2] Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Bootle, Athrofa Lerpwl a Choleg Tettenhall. Er iddo gael ei eni a'i magu yn Lloegr yr oedd yn Gymro Cymraeg iaith gyntaf.
Dechreuodd weithio fel brocer yswiriant i longau ym musnes y teulu yn Lerpwl ac yn ddiweddarach daeth yn un o warantwyr cwmni yswiriant Lloyds Llundain
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Wrecsam o 1918 i 1922, penderfynodd ymgeisio am Ynys Môn yn etholiad 1922 ond methodd i gipio'r sedd oddi wrth yr AS Llafur y Brigadydd-Gadfridog Syr Owen Thomas, pan fu farw Syr Owen ym 1923 ymgeisiodd Syr Robert am yr ail dro gan lwyddo i gipio'r sedd i'r Rhyddfrydwyr. Parhaodd yn AS hyd 1929 pan ymddiswyddodd oherwydd bod ei busnes mewn trafferthion, gan fethdalu ym 1930 (nid oes hawl gan fethdalwr i fod yn Aelod Seneddol).
Ar ôl cael ei ryddhau o'i fethdaliad safodd yn llwyddiannus fel Cynghorydd ar Gyngor Sir Fôn.
Gwasanaethodd Syr Robert fel Uchel Siryf Môn ym 1912.
Roedd yn un o sylfaenwyr Cronfa Goffa Arwyr Cymru gan roi £20,000 o'i arian personol i'r achos a gwasanaethu fel ysgrifennydd mygedol yr achos. Fe sylfaenodd Cartref Gofal Lady Thomas yng Nghaergybi cartref i roi gofal i filwyr a morwyr anabl. Roedd yn aelod o gyngor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac am bymtheng mlynedd fe fu yn drysorydd anrhydeddus Cymdeithas Eisteddfod Môn. Fe'i dyrchafwyd yn Farwnig ym 1918.[3].
Priododd Marie Rose Burrows ym 1905 a chawsant bump o blant. Bu farw ar Medi 27, 1951 yn ei gartref yng Nghaergybi
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.