Remove ads
awdurdod ar ffermio, brigadydd, aelod seneddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Cadfridog, amaethwr ac Aelod Seneddol Cymreig oedd Syr Owen Thomas (18 Rhagfyr 1858 - 6 Mawrth 1923).[1]
Ganed ef yng Ngharrog, Llanbadrig, Ynys Môn. Wedi ei addysgu yn Lerpwl, bu'n oruchwyliwr ar stadau Plas Coch a'r Brynddu, yna yn aelod o Gomisiwn brenhinol ar y dirwasgiad amaethyddol. Yn 1899, roedd ar ymweliad a De Affrica pan ddechreuodd Rhyfel y Boer, a gwnaed ef yn Gyrnol. Dywedir iddo ymladd mewn dros gant o frwydrau yn y rhyfel.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, gwnaed ef yn Frigadydd-Gadfridog yn gyfrifol am godi a hyfforddi milwyr yng Ngogledd Cymru. Gwnaed ef yn farchog yn 1917. Collodd dri mab yn y rhyfel hwn.
Ar ddiwedd y rhyfel, rhoddodd ei enw ymlaen fel ymgeisydd Llafur dros Ynys Môn, ac enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1918, gan guro'r Aelod blaenorol, E. J. Ellis-Griffith. Yn 1922, safodd fel ymgeisydd annibynnol yn erbyn y Rhyddfrydwr, ac enillodd eto. Claddwyd ef yn Llanfechell.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.