actor a aned yn 1967 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans (ganed Rhys Owain Evans: 22 Gorffennaf 1967). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn a'i addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Mae'n frawd hŷn i'r actor Llŷr Ifans.
Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis cyfresi Swig o..., Sdwnsh, Mwy Na Phapur Newydd a Pobl y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.
Ym Medi 2012 cafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Wici Cymru, sef y gymdeithas sy'n gefn i Wicipedia Cymraeg.
Mae wedi perfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion. Bu'n brif ganwr y Super Furry Animals ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw The Peth; ef yw prif ganwr y grŵp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, sef Sienna Miller, a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith.
Cafodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yng Ngorffennaf 2007 am ei gyfraniad i'r byd ffilmiau.
Ymhlith ei ddramâu llwyfan y mae: 'Accidental Death Of An Anarchist', a berfformiwyd yn Theatr Donmar, Llundain, 2003, 'Hamlet' yn Theatr Clwyd, 'A Midsummer Night's Dream' yn Regent's Park Theatre ac 'Under Milk Wood' a 'Volpone' yn y Royal National Theatre.
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1995 | Streetlife | Kevin | |
1996 | August | Griffiths | |
1997 | Twin Town | Jeremy Lewis | |
1997 | Trial & Retribution | Michael Dunn | Cyfres deledu |
1998 | Dancing at Lughnasa | Gerry Evans | |
1999 | Heart | Alex Madden | |
1999 | You're Dead | Eddie | |
1999 | Notting Hill | Spike | |
1999 | Janice Beard 45 WPM | Sean | |
1999 | Hooves of Fire | Head Elf | Llais |
2000 | Rancid Aluminium | Pete Thompson | |
2000 | Love, Honour and Obey | Matthew | |
2000 | Kevin & Perry Go Large | Eyeball Paul | |
2000 | Sali Mali | Adroddwr | |
2000 | The Replacements | Nigel Gruff | |
2000 | Little Nicky | Adrian | |
2001 | Hotel | Trent Stoken | |
2001 | Christmas Carol: The Movie | Bob Cratchit | Llais |
2001 | The Shipping News | Beaufield Nutbeem | |
2001 | Human Nature | Puff | |
2001 | The 51st State | Iki | |
2002 | Once Upon a Time in the Midlands | Dek | |
2003 | Danny Deckchair | Danny Morgan | |
2004 | Vanity Fair | William Dobbin | |
2004 | Enduring Love | Jed | |
2004 | Not Only But Always | Peter Cook | Ffilm deledu |
2005 | Midsummer Dream | Lysander | Llais: Fersiwn Saesneg |
2005 | Chromophobia | Colin | |
2005 | The Importance of Being Idle | Lazy Man | Fideo cerddoriaeth |
2006 | Garfield: A Tail of Two Kitties | McBunny | Llais |
2007 | Four Last Songs | Dickie | |
2007 | Hannibal Rising | Grutas | |
2007 | Elizabeth: The Golden Age | Robert Reston | |
2008 | Come Here Today | Alex | |
2008 | A Number | Benard (B2) | |
2009 | The Informers | Roger | |
2009 | The Boat That Rocked | Gavin Kavanagh | |
2009 | Mr. Nobody | Nemo's Father | |
2010 | Mr. Nice | Howard Marks | |
2010 | Greenberg | Ivan Schrank | |
2010 | Passion Play | Sam Adamo | |
2010 | Nanny McPhee and the Big Bang | Uncle Phil | |
2010 | Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 | Xenophilius Lovegood | |
2010 | Exit Through the Gift Shop | Adroddwr | |
2011 | Anonymous | Edward de Vere | |
2011 | Neverland | James Hook | Ffilm deledu |
2012 | The Corrections | - | Peilot heb ei ddarlledu |
2012 | The Five-Year Engagement | Winton Childs | |
2012 | The Amazing Spider-Man | Dr. Curt Connors / The Lizard | Enwebwyd — Gwobr Teen Choice Award ar gyfer Movie Villain]] |
2013 | Another Me | Don | |
2013 | Playhouse Presents - "Gifted" | Chris | |
2013 | Elementary | Mycroft Holmes | 7 pennod |
2014 | Serena | Galloway | |
2014 | Madame Bovary | Monsieur Lheureux | |
2015 | Dominion[1] | Dylan Thomas | |
2015 | She's Funny That Way | Seth Gilbert | |
2015 | Len and Company | Len Black | |
2015 | Dan y Wenallt | Captain Cat | Hefyd yn gynhyrchydd |
2016 | Berlin Station | Hector DeJean | Cyfres deledu; adnewyddwyd gan Epix ar gyfer Cyfres 2 yn 2017 |
2016 | Alice Through the Looking Glass | Zanik Hightopp | |
2016 | Snowden | Corbin O'Brian | |
2019 | Official Secrets | Ed Vulliamy | ôl-gynhyrchu |
TBA | Misbehaviour | Eric Morley | Yn ffilmio |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.