Rhuthrad yr Hajj (2015)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ar 24 Medi 2015, cafwyd cyflafan ym Mecca pan welwyd 849 o bobl yn cael eu damsang a'u sathru'n farw[1][2] ac 863 yn cael eu hanafu yn ystod pererindod blynyddol Hajj yn Mecca.[3] Dyma'r drychineb fwyaf o'i bath yn yr Hajj ers 1990 pan laddwyd o leiaf 1,426 o bobl drwy gael eu gwasgu a'u sathru dan draed.[4] Fodd bynnag, ceir cryn anghytundeb am y niferoedd a dywed teledu Iran (Press TV) fod dros 1,300 wedi marw,[5] ac y bydd dros 1,500 wedi marw ar ddiwedd y dydd.[6] Rhoddodd papur newydd o Libanus, sef yr Ad-Diyar, y bai ar osgordd y Tywysog Mohammad bin Salman Al Saud a oedd yn cymryd rhan yn yr Hajj.[5][7] Gwadwyd hyn gan swyddogion Sawdi Arabia.[7] Dyma'r ail drychineb yn Mecca o fewn pythefnos, wedi i graen enfawr ddisgyn gan ladd 11 o bobl ar 11 Medi 2015 ac anafu rhai cannoedd.
un o'r llwybrau o Mina i Jamarat (2011) | |
Amser | 09:00 Amser Safonol Arabia (UTC+03:00) |
---|---|
Dyddiad | 24 Medi 2015 (2015-09-24) |
Cyfesurynnau | 21°24′59.5″N 39°53′04.9″E |
Achos | Pobl yn rhuthro |
Anafiadau | O leiaf 934 |