From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae gan Gymru saith dinas. Bangor yw dinas gadeiriol hynaf Cymru, a Tyddewi yw dinas leiaf y Deyrnas Unedig.[1] Caerdydd yw prifddinas Cymru a'r ddinas fwyaf poblog, ac Abertawe yw'r ail fwyaf poblog. Ers 2000, mae trefi Cymru wedi cyflwyno ceisiadau i ennill statws dinas fel rhan o ddathliad megis dathliadau’r mileniwm, gyda Chasnewydd, Llanelwy a Wrecsam yn cael statws dinas drwy’r cystadlaethau hyn. Wrecsam yw’r mwyaf diweddar i ennill y statws, ac fe’i dyfarnwyd ym mis Medi 2022.
Enw | Llywodraeth leol | Blwyddyn | Eglwys gadeiriol | Delwedd | Poblogaeth[1] |
---|---|---|---|---|---|
Caerdydd | Dinas a Sir Caerdydd | Eglwys Gadeiriol Llandaf |
362,750 | ||
Abertawe | Dinas a Sir Abertawe | 1969 [4] | Eglwys Gadeiriol Sant Joseff |
Traeth Aberafan a Bae Abertawe |
245,480 |
Casnewydd | Casnewydd | 2002 [5] | Eglwys Gadeiriol Casnewydd (Cadeirlan Sant Gwynllyw) |
Cyrchfan y Celtic Manor |
151,500 |
Wrecsam | Bwrdeistref Sirol Wrecsam | 2022 [6] | Eglwys Gadeiriol Wrecsam |
Dinas Wrecsam (Stryt yr Hôb) |
65,359 |
Bangor | Gwynedd | Eglwys Gadeiriol Bangor |
Golygfa o'r ddinas o Borth Penrhyn |
18,000 | |
Llanelwy | Sir Ddinbych | 2012 [9] | Eglwys Gadeiriol Llanelwy |
Tafarn y Kentigern Arms |
3,500 |
Tyddewi | Sir Benfro | 1994 [10] | Eglwys Gadeiriol Tyddewi |
Porth Brâg |
1,840 |
Nodwyd y 28 dinas yn Historia Brittonum (ysgrifenwyd yn 9g) a disgrifiodd Gildas yn 536OC Ynys Brydain wedi'i gwneud yn prydferth harddu gan wyth ar hugain o ddinasoedd "civitatibus" gan gynnwys y canlynol yng Nghymru:[2]
Dyma restr o lefydd eraill yng Nghymru gyda'r term "Caer" heddiw:
Bu Bangor yn ddinas gadeiriol ers y 6ed ganrif[1] ac esgobaeth hynaf Cymru, a sefydlwyd yn 550OC gan Sant Deiniol.[7]
Yn y canol oesoedd, coronwyd ystyriwyd Abaty Ystrad Fflur lle cynhaliodd Llywelyn Fawr gyngor yn 1238, ac yna Machynlleth, lle cynhaliwyd Senedd Owain Glyndŵr yn 1404.[11]
Ers 2000, mae trefi Cymru wedi cystadlu mewn gornest i ennill statws dinas, fel rhan o anrhydeddau dinesig mewn dathliadau nodedig, fel dathliadau’r mileniwm neu Jiwbilî’r frenhines oedd yn teyrnasu. Beirniadwyd gornest 2000 am beidio â chyhoeddi dinas Cymreig llwyddiannus.[12][13][14] Cynigwyd Merthyr Tudfil ar gyfer 2022 ond ni wnaed cais ar ôl adborth a phleidlais y cyngor.[15]
Ymgeisiodd Wrecsam yn aflwyddiannus i fod yn dinas diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2025 ac mae'n bwriadu gwneud cais arall ar gyfer 2029.[21]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.