rhestr Wicimedia From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o'r 14 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Massachusetts yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Maine yw 23, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 25XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
Sir |
Cod FIPS [3] | Canolfan weinyddol[4][5] | Sefydlu[5] | Tarddiad[4] | Etymoleg[6] | Poblogaeth[5] | Maint[5] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Barnstable County | 001 | Barnstable | 1685 | Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth | Ar ôl ei ganolfan weinyddol, Barnstable, a enwir yn ei dro ar ôl y dref Seisnig Barnstaple | 215,888 | sq mi ( 1,026 km2) | 396|
Berkshire County | 003 | Pittsfield | 1761 | O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth yn 2000.[7] | Ar ôl y sir Seisnig Berkshire | 131,219 | sq mi ( 2,411 km2) | 931|
Bristol County | 005 | Taunton | 1685 | Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth | Ar ôl ei ganolfan weinyddol wreiddiol, Bristol, Massachusetts, a enwyd yn ei dro ar ôl dinas Bryste, Lloegr pan ymunodd Tref Bristol â Rhode Island, cadwyd enw'r sir | 548,285 | sq mi ( 1,440 km2) | 556|
Dukes County | 007 | Edgartown | 1695 | O Martha's Vineyard ac Elizabeth Islands, a fu'n ran o Dukes County, Efrog Newydd hyd i Massachusetts ei hennill ym 1691 | Yn rhan o Dukes County, Efrog Newydd hyd 1691, bu'r tir, ar y pryd, yn eiddo i ddugaeth Efrog ym Mhendefigaeth Lloegr | 16,535 | sq mi ( 269 km2) | 104|
Essex County | 009 | Salem, Lawrence | 1643 | Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Essex | 743,159 | sq mi ( 1,290 km2) | 498|
Franklin County | 011 | Greenfield | 1811 | O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1997.[7] | Er anrhydedd i Benjamin Franklin (1706–1790), gwyddonydd, diplomydd a gwleidydd Americanaidd cynnar. | 71,372 | sq mi ( 1,818 km2) | 702|
Hampden County | 013 | Springfield | 1812 | O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1998.[7] | John Hampden (1595—1643), seneddwr enwog Seisnig o'r 17eg ganrif | 463,490 | sq mi ( 1,601 km2) | 618|
Hampshire County | 015 | Northampton | 1662 | O drefedigaeth heb ei threfnu yn rhan orllewinol Tiriogaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Hampshire | 158,080 | sq mi ( 1,370 km2) | 529|
Middlesex County | 017 | Lowell, Cambridge | 1643 | Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1997.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Middlesex | 1,503,085 | sq mi ( 2,134 km2) | 824|
Nantucket County | 019 | Nantucket | 1695 | O Nantucket Island a fu'n ran o Dukes County, Efrog Newydd hyd i Massachusetts ei hennill ym 1691. | Tref Nantucket, a enwyd yn ei dro o air y llwyth brodorol Wampanoag am "le heddychlon" | 10,172 | sq mi ( 124 km2) | 48|
Norfolk County | 021 | Dedham | 1793 | O ran o Suffolk County. | Ar ôl y sir Seisnig, Norfolk | 670,850 | sq mi ( 1,036 km2) | 400|
Plymouth County | 023 | Brockton, Plymouth | 1685 | Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth. | Ar ôl ei ganolfan weinyddol Plymouth, a enwyd yn ei dro ar ôl Plymouth, Lloegr | 494,919 | sq mi ( 1,712 km2) | 661|
Suffolk County | 025 | Boston | 1643 | Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Suffolk | 722,023 | sq mi ( 150 km2) | 58|
Worcester County | 027 | Worcester | 1731 | O rannau o Hampshire County, Middlesex County a Suffolk County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1998.[7] | Ar ôl ei thref sirol Worcester, sydd wedi ei henwi ar ôl ddinas Caerwrangon, Lloegr a Brwydr Caerwrangon yn Rhyfel Cartref Lloegr lle fu ochr y Seneddwyr yn fuddugol | 798,552 | sq mi ( 3,919 km2) | 1,513
Mae gan Massachusetts 14 sir. Diddymodd Massachusetts llywodraethau lleol wyth [7] o'i 14 sir rhwng 1997 a 2000, ond mae'r siroedd yn rhan dde-ddwyreiniol y wladwriaeth yn cadw llywodraeth leol ar lefel sirol (Barnstable, Bristol, Dukes, Norfolk, Plymouth) ac yn un achos, (Nantucket County) llywodraeth sir a thref gyfunol. [4] Mae ardaloedd barnwrol a gorfodaeth cyfraith ddinesig yn dal i ddilyn ffiniau'r siroedd hyd yn oed yn y siroedd y mae eu llywodraeth ar lefel sirol wedi'u diddymu, ac mae'r siroedd yn dal i gael eu cydnabod yn gyffredinol fel endidau daearyddol er nad ydynt bellach yn rhai gwleidyddol, ynghyd â pharhau i ddarparu ffiniau daearyddol ar gyfer rhybuddion y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol. Mae tair sir (Hampshire, Barnstable, a Franklin) wedi ffurfio compactau sirol rhanbarthol newydd i wasanaethu fel math o lywodraeth ranbarthol.
Oherwydd camreoli ysbyty cyhoeddus Middlesex County yng nghanol y 1990au bu'r sir ar drothwy methdaliad. Ym 1997 cymerodd y llywodraeth daleithiol cyfrifoldeb am holl asedau a rhwymedigaethau'r sir er mwyn achub y sir o'i drafferthion ariannol. Diddymwyd llywodraeth Middlesex County yn swyddogol ar 11 Gorffennaf, 1997. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pleidleisiodd Comisiwn Franklin County i ddod a'i lywodraeth i ben. Roedd y ddeddf i ddiddymu llywodraeth Middlesex County hefyd yn darparu ar gyfer diddymu Hampden County a Worcester County ar 1 Gorffennaf, 1998. Diwygiwyd y ddeddf yn ddiweddarach i ddiddymu Hampshire County ar 1 Ionawr, 1999; Essex County a Suffolk County ar 1 Gorffennaf yr un flwyddyn; a Berkshire County ar 1 Gorffennaf , 2000. Mae Pennod 34B o Gyfreithiau Cyffredinol Massachusetts yn caniatáu i siroedd eraill naill ai ddiddymu eu hunain, neu i ad-drefnu fel "cyngor llywodraeth ranbarthol", fel y mae Siroedd Hampshire a Franklin wedi'i wneud. Mae llywodraethau siroedd Bryste, Plymouth a Norfolk wedi aros yn sylweddol ddigyfnewid. Mae Siroedd Barnstable a Dukes wedi mabwysiadu siarteri sir fodern, gan eu galluogi i weithredu fel llywodraethau rhanbarthol effeithlon. Mae gan Dukes County yn benodol asiantaeth gynllunio ranbarthol gref o'r enw Comisiwn Martha's Vineyard.[8]
Enwir mwyafrif siroedd Massachusetts ar ôl lleoedd yn Lloegr, gan adlewyrchu treftadaeth drefedigaethol Massachusetts.[6]
"Tref sirol" yw'r term statudol ar gyfer unrhyw dref yn Massachusetts sydd â llys sirol a swyddfeydd gweinyddol; gall sir gael trefi sirol lluosog. [4] "Sedd y sir" yw'r term safonol a ddefnyddir mewn cyfathrebiadau cyffredinol gan lywodraeth Massachusetts.
Sir |
Creu [4] |
Diddymu [4] |
Tynged [4] |
---|---|---|---|
Cumberland County | 1760 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Devonshire County | 1674 | 1675 | Diddymwyd a'i throsglwyddwyd ei thiroedd i Maine |
Hancock County | 1789 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Kennebec County | 1799 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Lincoln County | 1760 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Norfolk County | 1643 | 1679 | Diddymwyd - ymgorfforwyd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth i fewn i New Hampshire; un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Massachusetts Bay. |
Oxford County | 1805 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Penobscot County | 1816 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Somerset County | 1809 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Washington County | 1789 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
York County | 1652 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine – Roedd dwy gyfnod pan ddiddymwyd York Conty, 1664 i 1668 a 1680 i 1691 |
Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.