From Wikipedia, the free encyclopedia
Proxima Centauri yw'r seren agosaf i Gysawd yr Haul, yn 4.2 blwyddyn golau i ffwrdd. Cafodd ei darganfod yn 1915 gan y seryddwr Robert Innes, ac mae'n debyg ei bod yn gysylltiedig â'r sustem Alpha Centauri, sydd yn cynnwys dwy seren, Alpha Centauri A ac Alpha Centauri B.
Enghraifft o'r canlynol | flare star, eruptive variable star, seren ddwbl, near-IR source, rotating variable star |
---|---|
Màs | 0.12 ±0.015 |
Dyddiad darganfod | 1915 |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 4851. CC |
Cytser | Centaurus |
Pellter o'r Ddaear | 1.3019 |
Paralacs (π) | 768.0665 ±0.05 |
Cyflymder rheiddiol | −20.578199 ±0.0047 cilometr yr eiliad |
Goleuedd | 0.0017 |
Radiws | 0.141 ±0.021 |
Tymheredd | 3,306 Kelvin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2016 darganfuwyd fod o leiaf un planed, Proxima b, yn cylchdroi'r seren.[1] Nid oedd chwiliadau blaenorol am blanedau yn llwyddiannus, gan ddiystyru presenoldeb corachod brown a phlanedau anferthol.[2] [3] Mae arolygon manwl yn mesur cyflymder rheiddiol hefyd wedi diystyru planedau "Uwch-Ddaear" (Super-Earths) o fewn parth trigiadwy y seren.[4] Fe fydd darganfod gwrthrychau llai yn dibynnu ar offer newydd, fel Telesgop Gofod James Webb, sydd i'w lansio yn 2018.[5] Oherwydd fod Proxima Centauri yn gorrach coch a seren ffagliol, mae dadl ynghylch a fyddai planed sy'n cylchdroi'r seren yn gallu cynnal bywyd.[6][7] Er hynny, oherwydd ei agosrwydd i'r Ddaear, mae awgrym y gallai fod yn gyrchfan ar gyfer teithio rhyngserol.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.