![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/44/The_old_Pembrokeshire_College_-_geograph.org.uk_-_949351.jpg/640px-The_old_Pembrokeshire_College_-_geograph.org.uk_-_949351.jpg&w=640&q=50)
Pontfadlen
pentref a chymuned yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Pontfadlen[1] neu Pont Fadlen (Saesneg: Merlin's Bridge).[2] Saif y pentref fymryn i'r de o dref Hwlffordd, ac mae i bob pwrpas yn faestref iddi.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8°N 5°W ![]() |
Cod SYG | W04000450 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Henry Tufnell (Llafur) |
![]() | |
Cau
Daw'r enw o hen Gapel y Santes Fair Magdalen (Cymraeg Canol: Mair Fadlen), sydd bellach yn adfail. Daw'r enw Saesneg hefyd o enw'r capel hwn, Mawdlyn's Bridge yn wreiddiol, ac nid oes cysylltiad a Myrddin. Efallai i'r capel fod yn noddfa i wahangleifion ar un adeg.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,184.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b0/Haroldstone_Chapel%2C_Merlins_Bridge_-_geograph.org.uk_-_190890.jpg/320px-Haroldstone_Chapel%2C_Merlins_Bridge_-_geograph.org.uk_-_190890.jpg)
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]