From Wikipedia, the free encyclopedia
Ail ddinas fwyaf Bwlgaria ar ôl Sofia yw Plovdiv (Bwlgareg Пловдив, Groeg Philippopolis / Φιλιππούπολη). Poblogaeth y ddinas yw tua 380,135 [1], a phoblogaeth rhanbarth Plovdiv yw 715,816 (Cyfrifiad 2001).
Math | large city, tref weinyddol ddinesig, tref weinyddol yr oblast, dinas ym Mwlgaria |
---|---|
Poblogaeth | 371,536, 386,546 |
Pennaeth llywodraeth | Ivan Totev |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Plovdiv |
Gwlad | Bwlgaria |
Arwynebedd | 101.98 km² |
Uwch y môr | 172 metr |
Gerllaw | Maritsa |
Cyfesurynnau | 42.142086°N 24.741454°E |
Cod post | 4000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ivan Totev |
Mae pobl yn byw ar safle presennol Plovdiv ers 8000 o flynyddoedd. Yn 342 CC, goresgynnwyd y ddinas gan Philip II o Facedon, a'i gwnaeth yn brifddinas ei deyrnas gan ei hailenwi ar ôl ei hun yn Philippopolis (dinas Philip). Roedd Plovdiv, o dan ei enw Rhufeinig Trimontium (dinas y tri bryn), yn ddinas bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac yn brifddinas i'r rhanbarth Rhufeinig Thracia. Yn y 1970au darganfuwyd amffitheatr Rufeinig odidog yno.
Bellach, Plovdiv yw canolfan weinyddol Rhanbarth Plovdiv yn ne Bwlgaria a thair bwrdeisdref (Plovdiv, Maritsa a Rodopi) ac ardal gynllunio Yuzhen tsentralen Bwlgaria. Mae'r ddinas yn bwysig o safbwynt economaidd, trafnidiaeth, diwylliannol ac addysgiadol. Mae Plovdiv hefyd yn cynnal digwyddiadau economaidd a diwylliannol fel Ffair Rhyngwladol Plovdiv, yr ŵyl theatrig rhyngwladol "A scene on a crossroad", a gŵyl deledu "The golden chest".
Lleolir Plovdiv yn rhan ddeheuol o Wastadir Plovdiv ar ddwy lan Afon Maritsa. Yn hanesyddol, mae'r ddinas wedi'i datblygu ar saith bryn syenit, gyda rhai ohonynt yn 250 m o uchder. Oherwydd y bryniau uchel hyn, weithiau cyfeirir at Plovdiv ym Mwlgaria fel "Dinas y Saith Bryn".
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.