Pibydd bach
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris minuta; yr enw Saesneg arno yw Little stint. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Pibydd bach Calidris minuta | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Calidris[*] |
Rhywogaeth: | Calidris minuta |
Enw deuenwol | |
Calidris minuta | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. minuta, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Un o aelodau llai teulu'r rhydyddion yw'r Pibydd Bach (Calidris minuta).
Mae'r Pibydd Bach yn nythu yn yr Arctic, yng ngogledd Ewrop a gogledd Asia. Mae'n aderyn mudol, ac yn y gaeaf mae'n symud tua'r de, cyn belled ag Affrica a de Asia. Yn y gaeaf mae'r pibyddion bach yn hel at ei gilydd yn heidiau, weithiau gyda rhydyddion eraill.
O ran maint mae'r Pibydd Bach yn sylweddol llai na Phibydd y Mawn. Mae'n nythu ar lawr yn yr Arctig, gan ddodwy 3 neu 4 wy.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar y traethau yng Nghymru yn y gwanwyn a'r hydref, ond yn llawer prinach yn y gaeaf.