From Wikipedia, the free encyclopedia
Offeryn brwynen idioglot sengl yw’r pibgorn (neu'r cornicyll a phib y bugail; Llydaweg: Bombarde)[1] a chwaraewyd hyd at o leiaf diwedd yr 18g ar Ynys Môn, ac o bosib hyd at yr 19g yn Sir Benfro. Fe wneir ei gorff o bren neu asgwrn, gyda chwe thwll i'r bysedd ac un i'r fawd. Ceir corsen sengl o bren ysgawen sy'n cael ei dal rhwng y dannedd, a thrwy chwythu'n galed y ceir tôn - yn debyg i'r obo.
Cyfeirir ato’n hanesyddol fel cornicyll neu pib-corn. Yn 1824 cyfeiriodd y Gentleman’s Magazine and Historical Chronicle at gerdd gan William o Lorris a ysgrifennwyd yn wreiddiol yng nghanol yr 13g a soniai am y defnydd o’r cornbib (hornpipe) yng Nghernyw yn ystod cyfnod yr oesoedd canol, gan ddweud fod yr offeryn yn gyfarwydd i nifer tu hwnt i Gernyw hefyd, gan gynnwys ‘yng Nghymru … lle y’i adwaenir yn ôl yr enw Pib-gorn’ (Cave a Nichols 1824, 412).
Am ganrifoedd, bu'r pibgorn yn offeryn poblogaidd iawn gan y Cymry a gweddill y gwledydd Celtaidd. Yn Llydaw, ceir offern tebyg iawn o'r enw bombarde. Mae'r offeryn chwyth yma'n gwneud sŵn treiddgar iawn, nid annhebyg i'r pibgodau Albanaidd a Gwyddelig ond o ran gwneuthuriad mae'n debyg i glarined cyntefig. Ceir chwe thwll ar y top ac un oddi tano; mae ganddo gwmpas o wythfed.
Ceir cyfeiriadau at offerynnau chwyth mewn ysgrifau Cymraeg o’r Oesoedd Canol ymlaen, ond y Pibgorn oedd yr un offeryn cwbl unigryw Gymraeg i oroesi o’r cyfnod. Cofnodir ei bwysigrwydd yng Nghymru yng nghyfreithiau Hywel Dda (ca.940–50), sy’n datgan y dylai pob pencerdd ddarparu diddanwch ar gyfer ei feistr ar y delyn, crwth a’r pibgorn. Mae tystiolaeth eiconograffig o’r oesoedd canol hefyd yn awgrymu nad yng Nghymru yn unig y chwaraewyd yr offeryn. Mae ffenestr Beauchamp (1447) yn Eglwys y Santes Fair, Warwig, yn arddangos angel yn chwarae ar gornbib tra bod angel arall yn dal offeryn arall sy’n ymddangos yn debyg i’r pibgorn Cymraeg. Yn Sallwyr Beauchamp (1372) gwelir ffigwr o fugail tu allan i furiau Caerfaddon yn chwarae’r hyn sy’n ymdebygu i gornbib. Mae cerfiadau ar furiau Eglwys Sant Eilian, Llaneilian, Ynys Môn sy’n dyddio nôl i’r 15g yn arddangos angylion yn chwarae pibgodau gyda chyrn troellog tebyg i’r pibgorn.
Fe geir ambell gyfeiriad mewn cerddi o’r 14g. ymlaen at ddefnydd o’r pibgorn a’r pibgod mewn dawnsfeydd, ynghŷd ag offerynnau eraill, megis y delyn (Kinney 2011, 24–5). Fodd bynnag ni cheir cofnod ysgrifenedig o’r offeryn tan ail hanner y 18g. Mae cyfeiriadau o’r cyfnod yma’n sôn am yr offeryn fel un bugeiliol a ddefnyddiwyd yn ucheldiroedd Sir Feirionydd, Gogledd Sir Benfro ac mewn rhannau o Ganolbarth Cymru, lle’r ai gweision fferm, porthmyn a bugeiliaid a’r offeryn gyda nhw i farchnadoedd, ffeiriau ac achlysuron tebyg. Dywedodd William Morris, un o Forysiaid Môn, mewn llythyr at ei frawd ym 1759: Difyr oedd gweled llanciau â'u pibau cyrn dan eu ceseiliau....yn hel gwarthegau tan chwibanu 'Mwynen Mai' a 'Meillionnen'. Fodd bynnag, erbyn 1770, nodai’r hynafiaethwr Daines Barrington (1727–1800) mai ar Ynys Môn yn unig clywid y pibgorn, a rhoddwyd gwobr flynyddol iddynt am ei chwarae. Mewn un digwyddiad o’r fath yn ystod y 18g. mae’n debyg fod dros 700 o offerynwyr wedi perfformio ar yr offeryn. Yn yr un modd, dywed Edward Jones yn ei Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards mai offeryn unigryw i fywyd gwledig ac amaethyddol Ynys Môn oedd y pibgorn erbyn hynny (Jones, 1794).
O ran gwneuthuriad, roedd y pibgorn wedi ei greu allan i diwben bren neu asgwrn (un ai’n grwn neu’n sgwâr yn allanol) gyda chwe thwll ar gyfer y bysedd ac un ar gyfer y fawd, gyda chap fechan ar gyfer y frwynen wedi ei wneud allan o gorn anifail wrth geg yr offeryn, ynghŷd â chorn troellog anifail mwy estynedig ar ei waelod, yn aml wedi ei dorri gydag ochrau miniog. Roedd y frwynen wedi ei greu allan o diwb silindraidd o elder, yn debyg i’r hyn ddefnyddiwyd mewn dawnsfeydd ar gyfer y pibgod; defnyddir corsen gwytnach erbyn heddiw.
Mae’r pibgorn yn perthyn i deulu offerynnol sydd i’w ganfod yn aml ar draws Ewrop, Asia a Gogledd Affrica; fe’i gysylltir gyda’r alboka yng Ngwlad y Basg a’r stock and horn Albanaidd. Fe geir cyrnbeipiau dwbl, mawr yng Ngogledd Affrica yn ogystal. Nid oes offeryn tebyg i’w weld yn Iwerddon, er y credai F. W. Galpin y gallai rhan o asgwrn carw (a’u cedwir erbyn hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon) fod yn diwben ar gyfer cornbib (Galpin, 1910).
O ran y pibgorn Gymraeg, mae tri wedi goroesi ac i’w gweld yn Amgueddfa Sain Ffagan gyda phob un yn chwarae’r radd fwyaf gan ddechrau ar un ai C’ neu F’. Mae’r offerynnau’n amrywio rhwng 41–52 cm o ran maint; nid yw’r corsennau gwreiddiol wedi goroesi. Er nad oes cofnod o unrhyw foddau neu dechnegau perfformio o’r cyfnod, mae darlun ar banel mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, yn dangos dyn yn chwarae’r pibgorn gyda’r ddwy foch wedi ymchwyddo. Mae’r llun felly’n awgrymu’r posibilrwydd fod anadlu cylchol (neu circular breathing) yn dechneg gyffredin ar yr offeryn; mae addasiadau diweddar o’r offeryn yn sicr yn cynnig eu hunain i’r modd yma o berfformio.
Yn ôl Nansi Richards y Sipsiwn Cymreig oedd yr olaf i gannu'r pibgorn.
Ers diwedd y 1970au mae Jonathan Shorland o Gaerdydd wedi cynllunio dros hanner cant ohonynt ac maent i’w clywed ar recordiau gan chwaraewyr megis Ceri Rhys Matthews o Saith Rhyfeddod, Antwn Owen Hicks o Carreg Lafar, a Stephen Rees gyda’r grŵp Crasdant.
Ceir defnydd o'r pibau Cymreig neu, pibodau tramor ond gydag alawon gwerin Cymreig yn cael eu canu arnynt, yn fwy mynych ers dechrau'r 21g mewn digwyddiadau megis gorymdeithiau Cymreig. Un enghraifft o hyn yw Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a sefydlwyd yn 2013 lle arweiniwyd yr orymdaith gan Ceri Rhys Matthews yn canu'r pibau. Ers hynny mae pibwyr eraill wedi arwain gan gynnwys Gwilym Bowen Rhys, Geraint Roberts o Ystalyfera ('Bagad Tawe'), ac aelodau Avanc.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.