pab o 1492 hyd 1503 From Wikipedia, the free encyclopedia
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig o 11 Awst 1492 hyd ei farwolaeth oedd Alecsander VI (ganed Roderic Llançol i de Borja) (1 Ionawr 1431) – 18 Awst 1503). Fe'i ystyrir yn un o babau mwyaf dadleuol y Dadeni oherwydd ei hoffder o nepotiaeth a'i anniweirdeb rhywiol. Ef oedd yr ail bab o'r teulu Borgia ar ôl ei ewythr Calistus III; daeth enw'r teulu'n ddrwg-enwog am lygredigaeth a thrais yn ystod teyrnasiad Alecsander. Ymhlith ei blant anghyfreithlon roedd Cesare Borgia, ag ysbrydolodd llyfr Niccolò Machiavelli Il Principe ("Y Tywysog"), a Lucrezia Borgia.
Pab Alecsander VI | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1431 Xàtiva |
Bu farw | 18 Awst 1503 o malaria Rhufain |
Dinasyddiaeth | Coron Aragón |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, diacon |
Swydd | pab, Deon Coleg y Cardinaliaid, camerlengo, Cardinal-esgob Albano, Archesgob Valencia, gweinyddwr apostolaidd, Apostolic Administrator of the Archdiocese of Valencia, Cardinal-Bishop of Porto e Santa Rufina, gweinyddwr apostolaidd, gweinyddwr apostolaidd, cardinal-diacon, cardinal-diacon, cardinal protodeacon, abad, Archoffeiriad Basilica Santa Maria Maggiore, gweinyddwr apostolaidd |
Tad | Jofré Llançol i Escrivà |
Mam | Isabel de Borja y Cavanilles |
Partner | Vannozza dei Cattanei, Giulia Farnese |
Plant | Pier Luigi de Borgia, Cesare Borgia, Giovanni Borgia, Lucrezia Borgia, Gioffre Borgia, Girolama Borgia, Isabella Borgia, Giovanni Borgia, Laura Orsini, Rodrigo Borgia |
Perthnasau | Juan II de Gandía, Francis Borgia, 4th Duke of Gandía |
Llinach | teulu Borgia |
Ganed Roderic Llançol i de Borja yn Xàtiva, ger Valencia yng Nghatalwnia; mae'r cyfenw'n addasiad o ffurf Eidaleg yr enw Borgia. Roedd ei ewythr ar ochr ei fam, Alonso de Borja, yn esgob Valencia a gafodd ei ddyrchafu yn hwyrach i statws cardinal, ac fe roddodd ef lwyth o fywoliaethau eglwysig i'w nai.[1] Ym 1456, ar ôl ei astudiaethau ym mhrifysgol Bologna, crëwyd Rodrigo Borgia yn gardinal gan ei ewythr, a oedd bellach wedi'i ethol yn Bab ac yn dwyn yr enw Calistus III. Ym 1457 penodwyd y Cardinal Borgia yn Is-ganghellor y Sedd Sanctaidd, swydd a oedd yn ei wneud yn un o'r cardinaliaid cyfoethocaf.[2] Parhaodd i ddal y swydd hyn drwy deyrnasiadau'r pedwar pab nesaf.[1] Cenhedlodd y cardinal bedwar o blant gyda'i feistres Vannozza dei Cattanei, a oedd o deulu bonedd Rufeinig; eu henwau oedd Giovanni (Juan), Cesare, Lucrezia a Goffredo (Jofré).[3]
Yn dilyn marwolaeth Innocentius VIII ym 1492, llwyddodd Borgia twy lwgrwobwyaeth i gael ei hun wedi'i ethol yn bab, a chymerodd yr enw Alecsander VI.[1] Defnyddiodd ei safle i sicrhau statws a chyfoeth ei deulu. Penododd ei fab hynaf, Juan, yn Ddug Gandía (yn Sbaen) ac ym 1492 rhoddodd sawl esgobaeth i'w ail fab Cesare. Yn y flwyddyn olynol daeth Cesare ac Alessandro Farnese, mab meistres diweddaraf y pab, Giulia Farnese, yn gardinaliaid. Trefnodd Alecsander briodasau gwleidyddol ar gyfer Lucrezia, a oedd weithiau'n llywodraethu fel rhaglyw pan oedd ei thad i ffwrdd o Rufain. Ym 1497 lladdwyd Juan, ac roedd amheuon mai Cesare oedd wedi trefnu'r llofruddiaeth. Yn y flwyddyn olynol gwadodd Cesare ei deitlau eglwysig a dechreuodd yrfa newydd fel milwr llwyddiannus ym myddin y Pab.
Ym 1493, y flwyddyn ar ôl mordaith Christopher Columbus, chwaraeodd Alecsander ran pwysig yn hanes yr Amerig drwy ddeddfwrio ar ba ardaloedd oedd i'w neilltuo i Sbaen a pha rai i Bortiwgal. Ei brif nod gwleidyddol yn ystod ei deyrnasiaeth oedd sicrhau perchnogaeth y teulu Borgia dros y Wladwriaeth Babyddol a chanolbarth yr Eidal.[2] I dalu am yr ymgyrch hyn llofruddiai Cesare ei elynion gwlediyddol yn yr hen deuluoedd bonedd Rhufeinig a chipio'u tiroedd, a chaniatäwyd i gardinaliaethau gael eu prynu gan deuluoedd cyfoethog. Ymhlith prif elynion Alecsander oedd Girolamo Savonarola, mynach a fu'n pregethu i'r Eglwys gael ei diwygio ac a gipiodd awennau Fflorens ym 1494; llosgwyd ef ar y stanc ym 1498. Ym mis Awst 1503 aeth Alecsander a Cesare yn sâl yn sydyn; roeddent naill ai wedi'u gwenwynnu neu wedi dal malaria. Bu farw y pab ar 18 Awst ac fe'i gladdwyd yn sydyn ac anurddasol.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.