![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/52/Nantperis%252C_Gwynedd%252C_ychydig_i%2527r_de-ddwyrain_o_Lyn_Peris_-_Cymru_%2528Wales%2529_11.jpg/640px-Nantperis%252C_Gwynedd%252C_ychydig_i%2527r_de-ddwyrain_o_Lyn_Peris_-_Cymru_%2528Wales%2529_11.jpg&w=640&q=50)
Nantperis
pentref ger troed yr Wyddfa / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llanberis, Gwynedd, Cymru, yw Nantperis [1][2] ( ynganiad ). Saif yn Eryri yn nyffryn "Nant Peris", ychydig i'r de-ddwyrain o Lyn Peris a phentref Llanberis. Mae Bwlch Llanberis yn arwain ymlaen i'r de-ddwyrain o'r pentref.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.10474°N 4.086172°W ![]() |
Cod OS | SH608584 ![]() |
![]() | |
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Peris; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol yn hytrach na Llanberis. Heb fod ymhell o'r eglwys mae Ffynnon Peris. Yn ôl traddodiad roedd dau frithyll yn arfer byw yn y ffynnon, ac os byddai'r sawl fyddai'n ymweld â'r ffynnon i geisio iachad yn gweld y brithyll, byddai ei gais yn llwyddiannus.
Mae'r pentref yn ganolfan boblogaidd gan ddringwyr, ac mae maes gwersylla yno; ceir hefyd un dafarn, Y Vaynol Arms. Gellir parcio yma a chymeryd bws "Sherpa'r Wyddfa" i Ben-y-pas ar gyfer dringo'r Wyddfa.
Mae "Nant Peris" neu "Afon Nant Peris" hefyd yn enw ar yr afon sy'n llifo i lawr Bwlch Llanberis a heibio'r pentref; a defnyddir "Nant Peris" fel enw arall ar Fwlch Llanberis ei hun hefyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]