![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Gaeaf_yr_Wyddfa.jpg/640px-Gaeaf_yr_Wyddfa.jpg&w=640&q=50)
Eryri
ardal fynyddig yng Ngwynedd, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhanbarth o ogledd Cymru yw Eryri. Mae'n gartref i fynyddoedd uchaf Cymru. Yn draddodiadol defnyddir yr enw am fynyddoedd Arfon, gyda'r Wyddfa fel canolbwynt, ac yn cynnwys Glyderau, y Carneddau, Crib Nantlle, Moel Hebog a Moel Siabod. Ers ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cynnwys ardaloedd tu allan i'r Eryri draddodiadol, er enghraifft ym Meirionnydd, mae tuedd wedi bod gan rai, yn enwedig o'r tu allan i Gymru, i gyfeirio at y cyfan o ardal y Parc fel "Eryri" ond mae'r Parc Cenedlaethol dros ddwywaith mwy ei faint na'r Eryri go iawn. Ffiniau'r Eryri draddodiadol, yn fras, yw'r briffordd A487 o Gaernarfon trwy Borthmadog cyn belled a Maentwrog yn y gorllewin a'r de, y briffordd A470 ymlaen i Fetws y Coed yn y de-ddwyrain ac Afon Conwy yn y dwyrain.
![]() | |
Math | masiff, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 20,414.63 ha ![]() |
Uwch y môr | 1,085 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9°N 3.85°W ![]() |
Hyd | 2.13 cilometr ![]() |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Cambria ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
- Erthygl am yr ardal draddodiadol yw hon. Gweler hefyd Parc Cenedlaethol Eryri.