Mosg Enfawr Gaza (Arabeg: جامع غزة الكبير, trawslythreniad: Jāma' Ghazza al-Kabir) a elwir hefyd yn y Mosg Mawr Omari (Arabeg: المسجد العمري الكبير, Jāmaʿ al-ʿUmarī al-Kabīr ) oedd y mosg mwyaf a'r hynaf yn Llain Gaza; fe'i lleolwyd yn hen ddinas Gaza. Hyd at Awst 2024 roedd yn darparu cymorth ar gyfer galar, iechyd meddwl a chorfforol i drigolion Gaza, ac yn symbol o falchder Palesteinaidd.[1] Yn Awst 2024, fe'i chwalu'n deilichion gan fyddin Israel yn eu hymdrech i ddileu cenedl y Palesteiniaid.[2]

Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Mosg Enfawr Gaza
Thumb
Mathmosg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAl-Daraj Edit this on Wikidata
SirDinas Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd1,800  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.504°N 34.4644°E Edit this on Wikidata
Thumb
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Islamaidd, Mamluk architecture, pensaernïaeth Normanaidd Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadIslam Edit this on Wikidata
Deunyddkurkar Edit this on Wikidata
Cau

Credir fod y mosg yn sefyll ar safle teml Philistaidd hynafol; defnyddiwyd y safle gan y Bysantaidd i godi eglwys yn y 5g, ond ar ôl y goncwest Fwslimaidd yn y 7g, cafodd ei thrawsnewid yn fosg. Disgrifiwyd yr adeilad yn "hardd" gan ddaearyddwr Arabaidd o'r 10g, cafodd minaret y Mosg Mawr ei ddymchwel mewn daeargryn yn 1033.

Yn 1149, adeiladodd y Croesgadwyr eglwys fawr, ond fe'i dinistriwyd yn bennaf gan yr Ayyubids ym 1187, ac yna ei hailadeiladu fel mosg gan y Mamluks ar ddechrau'r 13g. Fe'i dinistriwyd gan y Mongols ym 1260, yna cafodd ei adfer yn fuan dim ond iddo gael ei ddinistrio drachefn gan ddaeargryn ar ddiwedd y ganrif. Cafodd y Mosg Mawr ei adfer eto gan yr Otomaniaid tua 300 mlynedd yn ddiweddarach.

Wedi'i ddifrodi'n ddifrifol ar ôl cael ei bledu gan gannonau Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, adferwyd y mosg ym 1925 gan y Cyngor Mwslimaidd Goruchaf.

Lleoliad

Lleolir olion y Mosg Mawr yn Chwarter Daraj yr Hen Ddinas yn Downtown Gaza ym mhen dwyreiniol Stryd Omar Mukhtar, i'r de-ddwyrain o Sgwâr Palesteina.[3] Hyd at gyflafan byddin Israel yn Awst 2024 roedd Marchnad Aur Gaza wedi'i lleoli ar draws y ffordd, ar yr ochr ddeheuol, ac i'r gogledd-ddwyrain roedd Mosg Katib al-Wilaya ac i'r dwyrain, ar Stryd Wehda , ceir ysgol i ferched.[4]

Hanes

Gwreiddiau Philistiaid

Thumb
Ysgythriad Menorah, 1873 [5]

Yn ôl y traddodiad, safodd y mosg ar safle teml y Philistiaid a gysegrwyd i Dagon - duw ffrwythlondeb - a ddymchwelwyd gan Samson yn Llyfr y Barnwyr . Yn ddiweddarach, codwyd teml wedi'i chysegru i Marnas —god glaw a grawn y Ffilistiaid.[6][7] Dywed chwedl leol, gyfoes bod Samson wedi’i gladdu o dan y mosg presennol.[8]

Eglwys Fysantaidd

Codwyd yr adeilad yn 406 OC fel eglwys Fysantaidd fawr gan yr Ymerodres Aelia Eudocia,[7][9] er ei bod hefyd yn bosibl i'r eglwys gael ei hadeiladu gan yr Ymerawdwr Marcian.  Ymddangosodd yr eglwys ar Fap Madaba o'r Wlad Sanctaidd a wnaed yn 6g.[9]

Mosg Mwslimaidd cynnar

Thumb
Cwrt, arcedau a minaret y mosg, diwedd y 19g
Thumb
Mae ffasâd gorllewinol y Mosg Mawr yn adlewyrchu arddull bensaernïol y Croesgadwyr. Llun wedi'i dynnu ar ôl bomio gan RAF Lloegr ym 1917

Trawsnewidiwyd yr eglwys Fysantaidd yn fosg yn y 7g gan gadfridogion Omar ibn al-Khattab[1][3] ym mlynyddoedd cynnar rheol Rashidun.[9] Mae'r mosg yn dal i gael ei enwi fel "al-Omari", er anrhydedd i Omar ibn al-Khattab a oedd yn galiph yn ystod concwest Fwslimaidd Palestina.[3][10]

Eglwys y Croesgadwyr

Yn 1149 adeiladodd y Croesgadwyr, a oedd wedi goresgyn Gaza ym 1100, eglwys fawr ar ben adfeilion yr eglwys ar orchymun Baldwin III o Jerwsalem (teulu o Ffrainc yn wreiddiol).[11] Fodd bynnag, yn nisgrifiadau William of Tire o eglwysi mawreddog y Crusader, ni chrybwyllir hon.[9] O dair ystlys y Mosg Mawr, credir bod rhannau o ddwy ohonyn nhw yno yng nghyfnod y Croesgadwyr.[11]

Mosg Mamluk

Ail-luniodd y Mamluks y mosg yn y 13g, ond ym 1260, dinistriwyd hi gan Ymerodraeth y Mongol ef.[12] Cafodd ei ailadeiladu wedi hynny, ond ym 1294, achosodd daeargryn iddo gwympo.[8] Gwnaed gwaith adnewyddu helaeth gan lywodraethwr Sunqur al-Ala'i yn ystod swltanad Husam ad-Din Lajin rhwng 1297-99.[13]

Comisiynodd llywodraethwr y ddinas, Sanjar al-Jawli, adfer y Mosg Mawr rywbryd rhwng 1311 a 1319.[9] Ailadeiladodd y Mamluks y mosg yn llwyr ym 1340.[14] Yn 1355 nododd y daearyddwr Mwslimaidd Ibn Battuta fodolaeth y mosg yn flaenorol fel "mosg dydd Gwener braf," ond dywed hefyd fod mosg al-Jawli wedi'i "adeiladu'n dda." [15] Mae arysgrifau ar y mosg yn dwyn llofnodion swltaniaid y Mamluk: al-Nasir Muhammad (dyddiedig 1340), Qaitbay (Mai 1498), Qansuh al-Ghawri (1516), a'r Abbasid caliph al-Musta'in Billah (1412) .[16]

Cyfnod Otomanaidd

Yn yr 16g adferwyd y mosg ar ôl difrod yn y ganrif flaenorol; comisiynodd yr Otomaniaid y gwaith a hefyd fe godon nhw chwe mosg arall yn y ddinas. Roeddent wedi bod yn rheoli Palesteina ers 1517.[8] Ceir arysgrif ar y tu mewn: enw llywodraethwr Otomanaidd Gaza, sef Musa Pasha, brawd Husayn Pasha, sy'n dyddio o 1663.[1]

Rhyfel Byd Cyntaf

Adroddodd rhai o deithwyr y Gorllewin ar ddiwedd y 19g mai'r Mosg Mawr oedd yr unig strwythur yn Gaza a oedd yn hanesyddol neu bensaernïol bwysig.[17][18] Er hyn, difrodwyd y Mosg Mawr yn ddifrifol gan Loegr a'u cynghreiriaid wrth ymosod ar safleoedd yr Otomaniaid yn Gaza yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Honnodd y Prydeinwyr fod arfau rhyfel Otomanaidd yn cael eu storio yn y mosg ac achoswyd ei ddinistrio pan daniwyd y arfau rhyfel gan y bomio.

Mandad Prydain

O dan oruchwyliaeth cyn-faer Gaza, Said al-Shawa, cafodd ei adfer gan y Cyngor Mwslimaidd Goruchaf ym 1926-27.[19]

Thumb
Y mosg yn y 1950au neu'r 1960au.

Honnir bod yr arysgrifau hynafol Iddewig wedi'u torri i ffwrdd yn fwriadol gyda chyn, ar ryw adeg rhwng 1987 a 1993.[20] Mae'r mosg yn dal i fod ar agor, ac yn ganolfan sy'n darparu cymorth ar gyfer galar, iechyd meddwl a chorfforol i drigolion Gaza, ac yn symbol o falchder Palesteinaidd.[1]

Pensaernïaeth

Thumb
Corff canolog y mosg, wrth edrych tua'r gorllewin, ar ôl bomio gan luoedd arfog Lloegr ym 1917

Roedd gan y Mosg Mawr arwynebedd o 4,100 metr sgwar (44,000 tr sg).[1] Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r strwythur cyffredinol o dywodfaen morol lleol o'r enw kurkar.[21] Mae'r mosg yn ffurfio sahn mawr (cwrt neu fuarth) wedi'i amgylchynu gan fwâu crwn. Roedd gan y Mamluks, ac yn ddiweddarach yr Otomaniaid, ymestyniadau ar yr ochrau deheuol a de-ddwyreiniol yr adeilad.[4]

Uwch ben y prif ddrws, ceir arysgrif sy'n cynnwys enw'r swltan Mamluk, sef Qalawun, ac mae arysgrifau hefyd sy'n cynnwys enwau'r swltaniaid Lajin a Barquq.[22]

Tu mewn

Pan drawsnewidiwyd yr adeilad o eglwys i fosg, disodlwyd y rhan fwyaf o adeiladwaith blaenorol y Croesgadwyr yn llwyr, ond mae ffasâd y mosg gyda'i fynedfa orllewinol fwaog yn ddarn nodweddiadol o bensaernïaeth eglwysig[23] ac mae colofnau o fewn y mosg yn dal i fodoli lle cedwir at y steil Gothig Eidalaidd. Mae rhai o'r colofnau wedi'u nodi fel elfennau o synagog hynafol, wedi'u hailddefnyddio fel deunydd adeiladu yn ddiweddarach, ac yn dal i fod yn rhan o'r mosg.[24] Yn fewnol, mae wynebau'r waliau wedi'u plastro a'u paentio. Defnyddir marmor ar gyfer y drws gorllewinol ac ocwlws y ffasâd gorllewinol. Mae'r lloriau wedi'u gorchuddio â theils gwydrog; marmor hefyd yw'r colofnau, a'r rheiny mewn arddull blodeuogCorinthian.[21]

Minarét

Roedd y mosg yn adnabyddus am ei Minarét, oedd â siâp sgwâr yn ei hanner isaf ac wythochrog octagonal yn ei hanner uchaf, sy'n nodweddiadol o arddull bensaernïol Mamluk. Adeiladwyd y minaret o gerrig o'r gwaelod i'r balconi crog uchaf, gan gynnwys yr hanner uchaf pedair haen. Codwyd y pinacl yn bennaf o waith coed a theils. Roedd cwpanola syml a darddai o'r drwm carreg wythochrog ac roedd o wneuthuriad ysgafn tebyg i'r mwyafrif o fosgiau yn y Lefant.[25] Saif y minaret ar ddiwedd bae dwyreiniol eglwys y Croesgadwyr. Trawsnewidiwyd ei dri cromfan hanner cylch i waelod y minaret.[26]

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd

  • Mosg al-Hashim Sayed

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.