From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier[1]) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metr (16 tr 5 mod) o hyd.[2] Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.[3]
Morgi rhesog Amrediad amseryddol: Mïosen uwch i'r presennol | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carcharhiniformes |
Teulu: | Carcharhinidae Péron & Lesueur, 1822 |
Genws: | Galeocerdo |
Rhywogaeth: | G. cuvier |
Enw deuenwol | |
Galeocerdo cuvier Péron & Lesueur, 1822 | |
Dosbarthiad | |
Cyfystyron | |
Squalus cuvier François Péron a Charles Alexandre Lesueur, 1822 |
Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid.[3][4] Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.[5]
Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.