![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/Moelwyn_Bach.jpg/640px-Moelwyn_Bach.jpg&w=640&q=50)
Moelwyn Bach
mynydd (710m) yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynydd uwch ben Llyn Stwlan yn Eryri yw'r Moelwyn Bach sy'n 710 metr. Saif yn y canol rhwng pentrefi Croesor i'r gorllewin a Thanygrisiau i'r dwyrain, a Maentwrog i'r de. Mae'r Moelwyn Mawr fymryn i'r gogledd, a chefnen Craigysgafn yn eu gwahanu. Rhwng y ddau Foelwyn mae Bwlch Stwlan, ac islaw gorwedda Llyn Stwlan, sydd ers 1961 yn argae hydroelectrig.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 710 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9739°N 3.997°W ![]() |
Cod OS | SH6603243746 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 124 metr ![]() |
Rhiant gopa | Moelwyn Mawr ![]() |
Cadwyn fynydd | Eryri ![]() |
![]() | |
Cau
Gellir cerddee i gopa'r Moelwyn Bach o Groesor, un ai'n uniongyrchol neu trwy ddringo'r Moelwyn Mawr yn gyntaf ac yna ymlaen dros Graigysgafn i gopa'r Moelwyn Bach. Taith arall yw o Danygrisiau i Gwmorthin ac ymlaen i hen Chwarel Rhosydd, yna i adfeilion Chwarel Croesor ac ymlaen heibio'r Moelwyn Mawr.