![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/99/Medlar_pomes_and_leaves.jpg/640px-Medlar_pomes_and_leaves.jpg&w=640&q=50)
Merysbren
Planhigyn â ffrwyth tebyg i egroes, anghyfarwydd ym Mhrydain heddiw ond yn boblogaidd ar un adeg ymysg y bonedd i fwyta â gwin i'w felysu. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Merysbren sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Mespilus germanica a'r enw Saesneg yw Medlar.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Merysbren Afal Agored, Afal Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll.
Ffeithiau sydyn Mespilus germanica, Dosbarthiad gwyddonol ...
Mespilus germanica | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Genws: | Mespilus |
Rhywogaeth: | M. germanica |
Enw deuenwol | |
Mespilus germanica Carl Linnaeus | |
Cau
Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd.[2] Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.