Melin Mynydd Parys
melin wynt rhestredig Gradd II yn Amlwch / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Melin Mynydd Parys yn felin wynt ar Ynys Môn.[1][2] Dyma un o'r melinau uchaf gan ei fod ar ben Mynydd Parys, sydd 138 metr uwch lefel y môr.
Cafodd ei chodi ym 1878 a chafodd ei chau ym 1904. Yn hytrach na malu grawn fe'i defnyddiwyd i bwmpio dŵr o waith copr Mynydd Parys, lle mae wedi'i lleoli. Yn wahanol i relyw melinau Môn, roedd ganddi 5 hwylbren yn hytrach na 4.
Melin Mynydd Parys yw un o`r melinau gwynt enwocaf yn Ynys Mon. Mae`n un o`r ardaloedd uchaf yn ynys mon, gydag uchder o 138 metr (450 troedfedd).
Melin Mymydd Parys yw'r unig felin ddiwydiannol ar ôl yng Nghymru.
Dyma oedd y twr melin wynt olaf gafodd ei adeiladu yng nghymru, a chafodd ei ddefnyddio tan i`r goddfa gau yn 1904.
Cafodd melin Mymydd Parys ei chreu i bwmpio dwr o'r gloddfa gopr, ym Mynydd Parys.