![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/36/Amrumer_Windm%25C3%25BChle_%25282018%2529.jpg/640px-Amrumer_Windm%25C3%25BChle_%25282018%2529.jpg&w=640&q=50)
Melin wynt
From Wikipedia, the free encyclopedia
melin sy'n cael ei phŵer o'r gwynt yw melin wynt. Mae'r gwynt yn troi hwyliau'r felin, a gellir defnyddio'r egni i wahanol bethau, er enghraifft malu grawn, cynhyrchu trydan neu bwmpio dŵr. Defnyddir y term "melin wynt" fel rheol am y math traddodiadol ar felin. Cyfeirir at y math modern a ddefnyddir i gynhyrchu trydan fel tyrbin gwynt fel rheol, er bod yr egwyddor yr un fath.
![]() | |
Math | melin, industrial structure, adeilad melin ![]() |
---|---|
![]() |
Nid oes sicrwydd pa bryd nag ymhle y dyfeisiwyd y felin wynt gyntaf, ond gwyddys ei bod yn cael ei defnyddio yn yr hen Bersia yn nechrau'r cyfnod hanesyddol. Yn Ewrop, mae'r felin wynt yn ymddangos yng ngogledd-orllewin Ffrainc, Fflandrys a de-ddwyrain Lloegr tua'r flwyddyn 1000.
Mewn ardaloedd gwastad lle nad oes dim o dorri ar rym y gwynt y mae'r felin wynt fwyaf llwyddiannus. Yn Ewrop, mae'r Iseldiroedd yn arbennig o enwog am ei melinau gwynt. Ceir nifer fawr yn La Mancha yng nghanolbarth Sbaen hefyd. Yng Nghymru, roedd nifer fawr ohonynt ar Ynys Môn (g. Rhestr o felinau gwynt yn Ynys Môn). Dim ond un o felinau gwynt traddodiadol Cymru, Melin Llynnon ger Llanddeusant, Ynys Môn, sy'n dal i weithio.
- Melin Llynnon ar Ynys Môn
- Melinau gwynt yn La Mancha, Sbaen
- Melin wynt yn Kuremaa, Estonia
- Stroczycy, Belarws
- Melin y Breuddwydion ("Yume-Fusha"), Yamaguchi, Japan
- Melin yn Sønderho, Denmarc