![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a7/Calvinist_Methodist_Chapel%252C_Meifod_-_geograph.org.uk_-_518720.jpg/640px-Calvinist_Methodist_Chapel%252C_Meifod_-_geograph.org.uk_-_518720.jpg&w=640&q=50)
Meifod
pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Meifod[1] ( ynganiad ). Saif 7 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng. Fe'i lleolir yn Nyffryn Meifod ar lan Afon Efyrnwy.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,322 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6,036.87 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.710227°N 3.251797°W ![]() |
Cod SYG | W04000329 ![]() |
Cod OS | SJ154133 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au | Steve Witherden (Llafur) |
![]() | |
Cau
Cysylltir Meifod a Sant Tysilio, a daeth yn brif ganolfan grefyddol Teyrnas Powys. Dwy filltir i'r de ceir safle Mathrafal, prif lys brenhinoedd Powys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]