![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2f/%25D0%259C%25D0%25B0%25D1%2580%25D0%25B8%25D0%25BD_%25D0%259B%25D0%25B5_%25D0%259F%25D0%25B5%25D0%25BD_%252828-01-2022%2529.jpg/640px-%25D0%259C%25D0%25B0%25D1%2580%25D0%25B8%25D0%25BD_%25D0%259B%25D0%25B5_%25D0%259F%25D0%25B5%25D0%25BD_%252828-01-2022%2529.jpg&w=640&q=50)
Marine Le Pen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfreithiwr a gwleidydd Ffrengig yw Marion Anne Perrine "Marine" Le Pen (Ffrangeg: [maʁin lə pɛn]; ganwyd 5 Awst 1968) a redodd am arlywyddiaeth Ffrainc, yn aflwyddiannus, yn 2012, 2017, a 2022. Ymunodd Le Pen â'r FN (Ffrynt Cenedlaethol, yn ddiweddarach y Rali Genedlaethol (RN), bu'n gwasanaethu fel ei llywydd o 2011 i 2021. Mae hi'n aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer 11eg etholaeth Pas-de-Calais ers 2017. Mae ei safiad gwleidyddol yn un dde eithaf ar y sbectrwm gwleidyddol.[1][2][3][4]
Marine Le Pen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Marion Anne Perrine Le Pen ![]() 5 Awst 1968 ![]() Neuilly-sur-Seine ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Master of Laws ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, cadres de la fonction publique, professions libérales et assimilés ![]() |
Swydd | member of the regional council of Île-de-France, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod Senedd Ewrop, conseiller régional des Hauts-de-France, arweinydd plaid wleidyddol, member of the departmental council of Pas-de-Calais, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ![]() |
Plaid Wleidyddol | National Rally ![]() |
Tad | Jean-Marie Le Pen ![]() |
Mam | Pierrette Lalanne ![]() |
Priod | Éric Iorio, Franck Chauffroy ![]() |
Partner | Louis Aliot ![]() |
Plant | Jehanne Chauffroy, Mathilde Chauffroy, Louis Chauffroy ![]() |
Perthnasau | Marion Maréchal, Nolwenn Olivier, Jany Le Pen, Philippe Olivier ![]() |
Llinach | Le Pen family ![]() |
Gwefan | https://mlafrance.fr ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cafodd Marine Le Pen ei geni yn Neuilly-sur-Seine, yn ferch i'r arweinydd blaenorol y blaid, Jean-Marie Le Pen[5] [6], a'i wraig gyntaf, Pierrette Le Pen. Mae gan Le Pen ddwy chwaer: Yann a Marie Caroline.
Roedd hi'n fyfyrwraig yn y Lycée Florent Schmitt yn Saint-Cloud. Gadawodd ei mam y teulu yn 1984 pan oedd Marine yn 16. Ysgrifennodd Le Pen yn ei hunangofiant mai'r effaith oedd "y mwyaf ofnadwy: nid oedd fy mam yn fy ngharu i."[7] Ysgarodd ei rhieni yn 1987.[8][9]