Mae Manon Haf Lloyd (ganwyd 5 Tachwedd 1996) yn feiciwr trac o Gymru sy'n cystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol. Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop yn 2016, fel rhan o'r tîm pursuit.[1] Daeth Lloyd yn drydydd yn y gystadleuaeth unigol yn Matrix Fitness Grand Prix 2017.[2]

Ffeithiau sydyn Gwybodaeth bersonol, Enw llawn ...
Manon Lloyd
Thumb
Lloyd in 2017
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnManon Haf Lloyd
Ganwyd (1996-11-05) 5 Tachwedd 1996 (27 oed)
Caerfyrddin, Cymru
Gwybodaeth tîm
Tim presennolTeam Breeze (ffordd)
British Cycling (trac)
DisgyblaethSeiclo trac
Cau

Bywgraffiad

Y hynaf o ddau o blant, magwyd Lloyd ar fferm ddefaid ei theulu yng Nghrwbin, ger Cydweli.[3] Mynychodd Ysgol y Fro gerllaw yn Llangyndeyrn.[4] Bu'n mwynhau nofio a rhedeg pan oedd yn iau, a phenderfynodd droi ei llaw at driathlon, gan ymuno â'r clwb lleol, Towy Riders, a chychwyn seiclo pan oedd tua 14 oed ar y trac seiclo ym Mharc Caerfyrddin.[3]

Canlyniadau

2014
Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop
1af Pursuit tîm Iau
1af Ras bwyntiau Iau
2016
Cwpan y Byd Seiclo Trac, UCI
1af Madison (Glasgow)
1af Pursuit tîm (Glasgow)
1af Pursuit tîm, Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop Dan 23
3rd Pursuit tîm, Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop
2017
Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop Dan 23
1af Madison (gydag Ellie Dickinson)
3ydd Ras bwyntiau
1af Pursuit tîm, Pencampwriaethau Seiclo Trac Prydain
Track Cycling Challenge
1af Madison (gyda Emily Kay)
2il Ras scratch
2il Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop, Pursuit tîm
3ydd Pursuit tîm, Rownd 1 (Pruszków), Cwpan y Byd Seiclo Trac, UCI (gyda Neah Evans, Emily Kay ac Emily Nelson)[5]

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.