From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yn Ngalilea, yng ngogledd Israel yw Môr Galilea, hefyd Môr Tiberias, Llyn Tiberias a Llyn Genasaret (Hebraeg: כִּנֶּרֶת , «Kinéret). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan Syria.
Math | monomictic lake |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tiberias |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Jordan Rift Valley |
Sir | Tiberias |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 168 km² |
Uwch y môr | −211.08 metr |
Cyfesurynnau | 32.818906°N 35.590033°E |
Dalgylch | 273 cilometr sgwâr |
Hyd | 21 cilometr |
Arllwysiad | 15.8 metr ciwbic yr eiliad |
Môr Galilea yw llyn mwyaf Israel. Mae'n 21 km o hyd a 13 o led, gyda dyfnder o 48 medr yn y rhan ddyfnaf ac arwynebedd o 166 km². Saif wyneb y llyn 212 medr islaw lefel y môr. Llifa Afon Iorddonen i mewn iddo yn y pen gogleddol, ac allan ohono yn y pen deheuol. Y trefi pwysicaf ar ei lan yw Tiberías ac Ein Gev.
Mae gan Fôr Galilea le pwysig yn hanes Cristnogaeth, oherwydd i lawer o'r digwyddiadau yng ngweinidogaeth Iesu o Nasareth ddigwydd ar ei lannau. Roedd nifer o'i ddisgyblion, Pedr, Andreas, Iago ac Ioan, yn bysgotwyr ar y llyn. Oherwydd y cysylltiadau hyn, roedd Môr Galilea eisoes yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.