Ioan

apostol yng Nghristnogaeth From Wikipedia, the free encyclopedia

Ioan

Yn y Testament Newydd mae Ioan neu Ioan Efenglydd neu Sant Ioan (fl. Ganrif 1af) yn un o ddeuddeg Apostol Crist ac un o'r pedwar efengylydd gyda Mathew, Marc a Luc. Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Iago. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.

Am bobl eraill yn dwyn yr enw Ioan, gweler Ioan (gwahaniaethu)
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ioan
Thumb
Miniatur o Ioan yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon
Ganwyd11 
Bethsaida 
Bu farwc. 99 
Effesus 
DinasyddiaethRhufain hynafol 
Galwedigaethpysgotwr, diwinydd, cyfrinydd, awdur 
SwyddApostol 
Dydd gŵyl27 Rhagfyr, 26 Rhagfyr 
TadSebedeus 
MamSalome 
Cau

Yn ôl traddodiad bu farw yn Effesus yn Asia Leiaf. Ffurf arall ar ei enw yw Ieuan. Fe'i gelwir weithiau Sant Ioan o Batmos hefyd.

Credir mai Ioan yw awdur yr Efengyl yn ôl Ioan, un o'r pedwar efengyl synoptig a ysgrifennwyd tua diwedd y ganrif gyntaf. Tadogir arno dri Llythyr yn y Testament Newydd yn ogystal. Yn ôl traddodiad Ioan oedd awdur Datguddiad Ioan sy'n disgrifio Arwyddion Dydd y Farn; credir iddo gael ei gyfansoddi ar ynys Patmos.

Thumb
Ioan Efengylydd, miniatur yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ioan Efengylydd, miniatur yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru 
Thumb
Ioan Efengylydd, manylyn o Driptych Syr John Dwnn gan Hans Memling (tua 1478)
Ioan Efengylydd, manylyn o Driptych Syr John Dwnn gan Hans Memling (tua 1478) 

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.