![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a4/Llyn_y_Fan_Fawr.jpg/640px-Llyn_y_Fan_Fawr.jpg&w=640&q=50)
Llyn y Fan Fawr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yng ngodre gogleddol ardal y Mynydd Du, de Powys, yw Llyn y Fan Fawr. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ab/Llyn_y_Fan_Fawr_from_a_small_beach.jpg/640px-Llyn_y_Fan_Fawr_from_a_small_beach.jpg)
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Gorwedd y llyn yng nghesail Fan Brycheiniog. Yma mae afon Tawe yn tarddu gan lifo i'r dwyrain ac yna i'r de-orllewin i lawr i Fae Abertawe. Rhai milltiroedd i'r dwyrain, yn Sir Gaerfyrddin, ceir ei chwaer-lyn, Llyn y Fan Fach, sydd â lle amlwg yn llên gwerin Cymru.