Bae Abertawe
bae / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bae ar lannau gogledd orllewinol Môr Hafren rhwng siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Bae Abertawe. Amgylchynnir y bae, yn wrth-glocwedd, gan y trefi Porthcawl, Port Talbot, Llansawel, Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r Afon Nedd, Tawe, Afan a nant Blackpill yn llifo i'r bae. Mae Bae Abertawe yn profi un o'r ystodau mwyaf o donnau yn y byd gydag uchafswm o tua 10m.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Yn y 2010au crëwyd cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe sef Lagŵn Bae Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[1]